TraCC
Trafnidiaeth Canolbarth Cymru
Amdamoni Ni
Mae Rhanbarth Canolbarth Cymru yn cynnwys canolbarth Cymru o'r ffin â Lloegr yn y dwyrain hyd at arfordir Cymru yn y gorllewin. Mae'n cynnwys awdurdodau lleol Powys, Ceredigion a rhanbarth Meirionnydd yng Ngwynedd. Hefyd, mae'r rhanbarth yn cynnwys rhannau o Barciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri.

Beth mae TraCC yn ei wneud?

Mae TraCC yn dod dyletswyddau priffyrdd a chludiant cyhoeddus y tri awdurdod lleol ynghyd i ddarparu atebion rhanbarthol penodol i faterion trafnidiaeth integredig lleol.
Mae TraCC yn helpu Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno ei bolisïau trafnidiaeth integredig lleol yn rhanbarthol, ac yn nodi blaenoriaethau, mewn cydweithrediad â phartneriaid, ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.
Gweledigaeth TraCC yw:

"Cynllunio ar gyfer, a darparu mewn partneriaeth, system drafnidiaeth integredig yn Rhanbarth TraCC sy'n hwyluso datblygu economaidd, yn sicrhau mynediad i bawb i wasanaethau a chyfleoedd, cynnal a gwella ansawdd bywyd cymunedol ac yn parchu'r amgylchedd".
Sut i gysylltu â TraCC:
Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC) yw'r consortiwm trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru. Y mae'n bartneriaeth rhwng tri awdurdod lleol Canolbarth Cymru - Phowys, Ceredigion a Gwynedd.
Sut i gysylltu â TraCC:
Swyddfa TraCC, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UE.
Ann Elias - Rheolwr Trafnidiaeth Strategol, ann.elias@ceredigion.gov.uk