Toggle menu

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Mae'r Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn un o bedair partneriaeth ranbarthol yng Nghymru sy'n gweithio i hybu buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion seiliedig ar anghenion lleol a rhanbarthol. Rydym yn gweithio ar draws siroedd Ceredigion a Powys yn cymryd ystyriaeth fanwl o flaenoriaethau Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru.

Rydym yn partneriaeth sy'n ymdrechu i weithio ar draws y rhanbarth yn pontio'r bwlch rhwng addysg ac adfywio yn y gobaith o greu economi cryf a bywiog.

Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy am Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru (Cliciwch ar y ddelwedd i gael eich cyfeirio at sianel YouTube Tyfu Canolbarth Cymru):

Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru 2022-2025

Drwy ymgysylltu'n agos â busnesau, gan roi llais iddynt ddylanwadu ar flaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth, mae'r Cynllun hwn yn mynd i'r afael â phwysigrwydd gwneud cysylltiadau cryf rhwng y system ddysgu leol a'r sgiliau sydd eu hangen ar draws y rhanbarth, fel ein bod yn creu'r amodau cywir ar gyfer gweithlu ffyniannus.

Wedi'i lansio yn nigwyddiad Tyfu-Diffiniwch-Cyflawni Gyda'n Gilydd, mae'r Cynllun yn nodi sectorau a sgiliau allweddol, blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol i gefnogi swyddi a thwf yn rhanbarth Canolbarth Cymru ac, mae'n nodi'r mecanwaith i greu seilwaith sgiliau mwy llewyrchus ar gyfer y rhanbarth am y 3 blynedd nesaf a thu hwnt.

Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru 2022-2025:  Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru 2022 – 2025 (PDF) [1MB]

Cynllun Gweithredu Cyflogaeth a Sgiliau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru 2022-2025:  Cynllun Gweithredu Cyflogaeth a Sgiliau Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, 2022 – 2025. (PDF) [285KB]

Cyflogi prentisiaid yng Nghanolbarth Cymru

Bu busnesau o'r Canolbarth yn siarad â ni, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, am fanteision cael prentisiaid fel rhan o'u gweithlu. Gwyliwch y fideo i weld beth oedd ganddyn nhw i'w ddweud (Cliciwch ar y ddelwedd i gael eich cyfeirio at sianel YouTube Tyfu Canolbarth Cymru):

Bod yn brentis yn y Canolbarth

Buom yn siarad â phrentisiaid yn y rhanbarth i ddarganfod pam y daethant yn brentis a beth sydd gan y dyfodol iddynt yng Nghanolbarth Cymru. Gwyliwch y fideo i weld beth oedd ganddyn nhw i'w ddweud (Cliciwch ar y ddelwedd i gael eich cyfeirio at sianel YouTube Tyfu Canolbarth Cymru):

Dolen i ddogfennau allweddol Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru. 

Hysbysiad Preifatrwydd i aelodau Grŵp Clwstwr Busnes Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru:  Hysbysiad Preifatrwydd i aelodau Grŵp Clwstwr Busnes Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru (PDF) [127KB]

Gallwch gysylltu â'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru drwy: midwalesrsp@powys.gov.uk

Dolenni Allanol Cysylltiedig:

Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021 - 2026

Cymru gryfach, decach a gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau (2022): Gwarant i Bobl Ifanc

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015

Cymru Sero Net - Cyllideb Garbon 2021-2025

Y Cwricwlwm Cenedlaethol Newydd

Cymraeg 2050

Digidol 2030

Cysoni'r model prentisiaethau ag anghenion economi Cymru

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu