1. English
Dewislen llywio safle agored

Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd gwefan Tyfu Canolbarth Cymru

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r wefan sy'n ymwneud â rhanbarth economaidd Tyfu Canolbarth Cymru (safleoedd Cymraeg a Saesneg).

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion.  Rydym am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio'r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Gwyddom nad yw pob rhan o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

Baich anghymesur

Gwe-lywio a chael gafael ar wybodaeth

Does dim ffordd o osgoi'r cynnwys a ailadroddir ym mhennyn y dudalen (er enghraifft, opsiwn 'ewch i'r prif gynnwys')

Ni ellir newid gogwydd y ddyfais bob tro, o lorweddol i fertigol, heb wneud hi'n anoddach gweld y cynnwys.

Does dim modd i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i beth o'r cynnwys orgyffwrdd.

 

Offer rhyngweithiol a thrafodion

Mae rhai o'r ffurflenni rhyngweithiol yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellffwrdd.  Er enghraifft, am nad oes tag 'labelu' ar rai o'r dyfeisiau rheoli ffurflenni.

Mae ein ffurflenni'n cael eu creu a'u rhedeg gyda meddalwedd trydydd parti ac mae eu golwg wedi'i addasu i edrych fel ein gwefan.

Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys y problemau hyn o ran gwe-lywio a chael gafael ar wybodaeth, a chyda'r offer rhyngweithiol a'r trafodion.  Credwn y byddai gwneud hynny ar y foment yn faich anghymesur yng nghyd-destun y rheoliadau hygyrchedd.  Byddwn yn cynnal asesiad pellach pan ddaw hi'n adeg adnewyddu'r cytundeb cyflenwr, sef oddeutu [amseriad bras].

 

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol ar gyfer darparu'n gwasanaethau.  Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth ar sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau, a ffurflenni sydd wedi'u cyhoeddi fel dogfennau Word.  Erbyn Medi 2020, rydym yn bwriadu un ai gyweirio'r rhain neu eu disodli â thudalennau HTML hygyrch.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn gwneud hi'n ofynnol inni gyweirio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 oni bai eu bod yn hanfodol ar gyfer darparu'n gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni'r safonau hygyrchedd.

 

Fideo Byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau i ffrydiau fideo byw am fod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.


 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych chi angen gwybodaeth am y wefan hon ar fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch mewn 5 diwrnod.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser am wella hygyrchedd y wefan hon.  Os dowch chi ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n meddwl nad ydym yn cwrdd â'ch gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').  Os  ydych chi'n anfodlon â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, yn sgil y diffyg hygyrchedd a restrir isod.

 

Sut rydym wrthi'n gwella hygyrchedd

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 30/09/2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 30/09/2020.

Cafodd y wefan hon ei phrawf diwethaf ar [date]. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu