Llywodraethu
Mae partneriaid yng Nghanolbarth Cymru wedi gwneud llawer i sefydlu strwythurau llywodraethu cadarn ac atebol gyda phrosesau gwneud penderfyniadau eglur, sicrwydd cynrychiolaeth, a thryloywder proses. Mae cytundeb rhyng-awdurdod wedi cael ei lofnodi rhwng Cynghorau Sir Powys a Cheredigion, gan roi trefniadau llywodraethu a rheoli clir yn eu lle i fwrw ymlaen â datblygu'r Fargen Twf.
Bydd cytundeb rhyng-awdurdod eilaidd (cytundeb llywodraethu) yn cael ei ddatblygu wrth i ni agosáu at Benawdau'r Telerau i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu'r trefniadau hyn i fodloni anghenion y Fargen Twf ar gyfer y cam cyflenwi.
Grŵp | Aelodaeth | Rôl |
Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru (Cyd-bwyllgor) | Aelodau Cabinet yr Awdurdod Lleol; Cadeirydd y Grŵp Strategaeth Economaidd (pob un â phleidlais), a hefyd Aelodau cyfetholedig heb bleidlais. | Arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau strategol ac atebolrwydd ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru. |
Grŵp Strategaeth Economaidd | Arweinwyr busnes enwebedig ar draws Canolbarth Cymru | Dull cynghorol, cymorth ac eiriolaeth y sector preifat ar gyfer datblygu a chyflenwi'r Fargen Twf. Mae rôl weithredol gan y grŵp o ran cynghori Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru i sicrhau bod llais y sector preifat yn ganolog i'r gwaith. |
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol | I'w gadarnhau | Ar hyn o bryd mae'r rhanbarth yn ceisio sefydlu ei drefniadau ei hunan a fyddai'n cysoni ac yn rhoi sylw gwell i anghenion pobl a busnesau Canolbarth Cymru. |
Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru | Aelodaeth traws-sector eang | Partneriaeth traws-sector, gan sicrhau mewnbwn ac ymgysylltu eang a fydd yn helpu i gynghori ar y Fargen Twf ond hefyd yn trafod materion ehangach wrth fanteisio ar gyfleoedd |
Trefniadau sefydledig
Mae'r cytundeb rhyng-awdurdod yn rhoi trefniadau clir yn eu lle i'r ddau awdurdod lleol gydweithio, y cylch gorchwyl ar gyfer fforymau gwneud penderfyniadau a chynghorol allweddol a swyddogaethau'r awdurdodau.
Isod ceir dolen i'r Tyfu Canolbarth Cymru trefniadau sefydledig
Tyfu Canolbarth Cymru trefniadau sefydledig (PDF) [120KB]