Crynodeb o'r economi Canolbarth Cymru
Mae economi Canolbarth Cymru yn cael ei nodweddu'n aml fel rhanbarth mawr a gwledig yn bennaf sy'n cynnwys 34% o dirfas Cymru . Mae'n adnabyddus am ei harddwch naturiol, hunaniaethau diwylliannol a threftadaeth cryf.
Mae'n llai adnabyddus fel tir o gyfleoedd economaidd digyffwrdd lle mae cyfraddau goroesi busnes yn uwch na chyfartaledd Cymru, lle mae ein hasedau naturiol ac academaidd yn cynnig dewis amlwg ar gyfer ymchwil arloesol gan ddarparu cyfleoedd cryf i greu clystyrau diwydiannol newydd, lle y ceir marchnad lafur cryf ond amrywiol gyda chysylltiadau cymudo strategol o fewn a'r tu allan i'r rhanbarth i rannau eraill o Gymru ac ar draws y ffin i Loegr.
Mae daearyddiaeth economi Canolbarth Cymru yn gydran hanfodol o ran ysgogi a chefnogi twf rhyng-ranbarthol ar draws Cymru a'r DU, lle mae cyfanswm ei effaith economaidd yn fwy na swm ei rannau unigol. Mae'r rhanbarth yn ffinio gogledd a de Cymru yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig a Swydd Henffordd yn Lloegr. Mae effaith rhanbarthau eraill ar economi Canolbarth Cymru yn allweddol ac mae angen i gynlluniau adlewyrchu'r rhyng-ddibyniaeth hon.
Er bod ein rhanbarth yn wynebu rhai cyfyngiadau hanesyddol, nid ydynt yn lleihau'r cyfleoedd cyffrous sydd o'n blaenau. Mae heriau megis bylchau mewn cysylltedd, Gwerth Ychwanegol Gros cymedrol y pen, cyfyngiadau yn seilwaith sgiliau, capasiti'r grid a systemau cefnogi busnes eisoes yn cael eu hystyried drwy fuddsoddiad strategol ac arloesi. Yn hytrach na rhwystrau, maent yn gatalyddion ar gyfer twf — gan ein hysgogi i adeiladu Canolbarth Cymru sy'n fwy gwydn, modern ac wedi'i gysylltu'n well. Drwy fynd i'r afael â'r meysydd hyn yn uniongyrchol, gallwn ryddhau potensial llawn ein pobl, grymuso busnesau lleol a sicrhau bod y rhanbarth yn barod i fanteisio ar gyfleoedd newydd gyda hyder.
Economi Canolbarth Cymru cipolwg sydyn