Toggle menu

Tyfu cyfleoedd yng Nghanolbarth Cymru

25.07.2023 - Ddydd Llun, Gorffennaf y 24ain yn Sioe Frenhinol Cymru, mynychodd partneriaid Tyfu Canolbarth Cymru dderbyniad i ystyried y cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yma ac i edrych ymlaen at y camau datblygu nesaf ar draws holl waith y rhanbarth.

Councillor Bryan Davies, Leader of Ceredigion County Council and Councillor James Gibson-Watt, Leader of Powys County Council at the Royal Welsh Show 2023

Ymhlith y sawl a fynychodd roedd busnesau ar draws Ceredigion a Phowys, uwch gynrychiolwyr gwleidyddol a rhanddeiliaid allweddol o amrywiaeth o sefydliadau partner.

Clywodd y digwyddiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud ers ffurfio partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn ôl yn 2015, a oedd yn cynnwys:

  • Y rhaglenni a'r prosiectau sy'n cael eu cefnogi ar draws gwahanol ffrydiau cyllido - o gronfeydd yr UE, cyllid Llywodraeth y DU a Bargen Twf Canolbarth Cymru.
  • Gofynion a chyfleoedd o ran sgiliau yng Nghanolbarth Cymru

Roedd ffocws penodol ar Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, gyda diweddariad i dirwedd sgiliau'r rhanbarth a chynllun Cyflogaeth a Sgiliau 3 blynedd presennol y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn cael ei archwilio. Roedd busnesau a phartneriaid yn gallu trafod sut y gall y Cynllun helpu i ysgogi newid yn y rhanbarth a sut olwg sydd ar y dyfodol ar gyfer sgiliau mewn gwahanol sectorau. Mae'r Cynllun ar gael ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru, www.tyfucanolbarth.cymru/PartneriaethSgiliauRhanbartholCanolbarthCymru .

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys ar y cyd: "Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ymgysylltu â'n partneriaid a busnesau'r rhanbarth i gael cipolwg ar yr hyn y maent yn ei brofi ar hyn o bryd o ran uwchsgilio, hyfforddi a recriwtio. Mae'n hanfodol ein bod yn cael y cyfleoedd hyn i siarad a gwrando ar ein gilydd i sicrhau bod gennym y blaenoriaethau cywir yn eu lle i ysgogi buddsoddiad sy'n bodloni gofynion y cyflogwyr a'r gweithlu.

Mae hefyd wedi bod yn wych rhannu gyda'n partneriaid y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo yn y rhanbarth ar draws nifer o ffrydiau cyllido. Rydyn ni'n gweld ffrwyth ychydig flynyddoedd o lafur yn dechrau dod i'r amlwg nawr. Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i weithio ochr yn ochr â'n gilydd i sicrhau newid gwirioneddol i'n rhanbarth."

I ddilyn datblygiadau pellach, mae gan Dyfu Canolbarth Cymru gylchlythyr misol. Mae rhifynnau blaenorol ar gael i'w darllen ar eu tudalen 'Newyddion a Digwyddiadau', www.tyfucanolbarth.cymru/newyddion.

Councillor Bryan Davies, Leader of Ceredigion County Council and Councillor James Gibson-Watt, Leader of Powys County Council at the Royal Welsh Show 2023
Y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys yn y Sioe Frenhinol Cymru 2023

Growing Mid Wales Reception, Royal Welsh Show 2023
Derbyniad Tyfu Canolbarth Cymru, Sioe Frenhinol Cymru 2023

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu