Toggle menu

Ymgynghoriad ar Gynllun Corfforaethol

01.11.2023 - Mae trigolion Canolbarth Cymru yn cael y cyfle i roi eu sylwadau ar Gynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CJC) y rhanbarth.

Crëwyd CJC Canolbarth Cymru, sy'n cynnwys Cynghorau Sir Powys a Cheredigion a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Bydd y CJC yn arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â'r economi, cynllunio datblygu strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol.

Mae'r CJC wedi llunio cynllun corfforaethol ar gyfer 2023-2027 ac mae'n gwahodd trigolion, busnesau a sefydliadau i roi eu sylwadau fel rhan o ymarfer ymgynghori a fydd yn cael ei gynnal dros chwe wythnos.

"Er ei bod hi'n ddyddiau cynnar ar waith y rhanbarth hyd yma, mae'r cynllun yn olrhain diben a chyfeiriad y gwaith ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion ym meysydd yr economi a thrafnidiaeth," meddai Eifion Evans, Prif Weithredwr, Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru.

"Yn ogystal, bydd y ddau Gyngor yn cydweithio â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o ran creu Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y rhanbarth.  Mae'r CJC wedi olrhain Gweledigaeth ac Amcanion Llesiant, ochr yn ochr ag Asesiad Effaith Integredig, fel rhan o'r Cynllun Corfforaethol.

"Mae'r tri chorff cyhoeddus sy'n gysylltiedig â'r gwaith wedi cydweithio ers nifer o flynyddoedd ar faterion amrywiol, a bydd sefydlu'r CJC yn ffurfioli'r berthynas hon, ac yn ei rhoi mewn fframwaith cyfreithiol."

Gallwch weld y Cynllun Corfforaethol Drafft a dogfennau cysylltiedig trwy glicio yma www.dweudeichdweudpowys.cymru/cynllun-corfforaethol-cc

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 12 Rhagfyr a bydd y sylwadau'n cael eu hadrodd i gyfarfod y CJC ym mis Ionawr.

Mid Wales Corporate Joint Committee logo

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu