Toggle menu

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn croesawu cyllid Llywodraeth DU

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn croesawu cyllid Llywodraeth DU i danio uchelgais rhanbarthol 07/10/2019

Growing Mid Wales Partnership members and UK Government officials

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am fuddsoddiad o £55 miliwn ym Margen Twf Canolbarth Cymru, cyfarfu Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru ag Arweinyddion cynghorau Sir Powys a Cheredigion ynghyd ag aelodau o sector preifat y rhanbarth. Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru bellach wedi cyhoeddi'r broses enwebu ar gyfer arweinyddiaeth bwrdd sector preifat y rhanbarth - y Grŵp Strategaeth Economaidd.

Growing Mid Wales Partnership members and UK Government officials

Bydd £55 miliwn o arian Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu buddsoddiad pellach gan y sector preifat i gyflawni prosiectau lleol a fydd yn cynyddu cyfleoedd a ffyniant mewn cymunedau ar draws Canolbarth Cymru. Bydd y Grŵp Strategaeth Economaidd yn chwarae rôl hanfodol wrth gynghori, cefnogi ac eiriol i gefnogi uchelgeisiau'r rhanbarth.

Yn dilyn y cyfarfod gydag Arweinwyr Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, dywedodd y Cynghorwyr Ellen ap Gwynn a Rosemarie Harris:

Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn croesawu cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS, y bydd cyllid o £55m yn cael ei gynnig ar gyfer bargen twf yn y rhanbarth.

Mae'r Bartneriaeth wedi bod yn gweithio gyda Llywodraethau'r DU a Chymru, busnesau a phartneriaid cyhoeddus a thrydydd sector i ddarparu arweinyddiaeth a gweledigaeth traws-sector cryf i sbarduno twf a ffyniant rhanbarthol ar draws Canolbarth Cymru.

Rydym yn croesawu'r cyllid a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac yn edrych ymlaen at ddatblygu cynigion manwl fel rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer tyfu economi Canolbarth Cymru. Mae hyn yn helpu i gydnabod anghenion a heriau penodol tyfu economi'r Canolbarth - ond mae'n rhaid i ni chwarae i'n cryfderau a sicrhau ein bod yn ymdrechu i gael twf ystyrlon a chynaliadwy. Mae'n hanfodol bod gennym weledigaeth glir i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r buddsoddiad cychwynnol hwn er mwyn datgloi a denu pecyn buddsoddi ehangach y bydd ei angen i wireddu ein huchelgais yn llawn.

Rydyn ni wedi buddsoddi amser yn sicrhau bod y llywodraethu'n iawn yn ein rhanbarth, gan ofalu bod gennym ni strwythurau partneriaeth cryf, atebol ac effeithiol. Bydd cynnwys y sector preifat yn y rhanbarth yn hanfodol er mwyn helpu i lunio a chynghori ar ein gweledigaeth ranbarthol i gefnogi sgiliau, arloesedd, cysylltedd a swyddi mwy cynhyrchiol sy'n cynnal cymunedau ffyniannus a dwyieithog. Yn hynny o beth, rydym heddiw'n cyhoeddi bod y rhanbarth yn chwilio am gynrychiolydd o'r sector preifat i arwain bwrdd sector preifat, y Grŵp Strategaeth Economaidd.

Mae'r broses enwebu ar gyfer y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gan unigolion sydd â chymwysterau addas ac sydd â phrofiad helaeth o'r sector preifat a all weithredu fel llysgennad ar ran y gymuned fusnes a lleisio eu barn ar y penderfyniadau a wnânt broses wrth i ni symud ymlaen. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 18 Hydref 2019.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Roeddwn wrth fy modd fy mod yn gallu cyhoeddi £55 miliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru yn ddiweddar, ac rwy'n edrych ymlaen yn awr at gydweithio'n agos â phartneriaid lleol i ddatblygu Penawdau Telerau cryf.

Mae darparu prosiectau trawsnewidiol ar draws y Canolbarth yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y DU a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i ddarparu'r cyllid sydd ei angen i greu buddsoddiad hanfodol gan y sector preifat.

Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn galluogi'r bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn gwneud busnes yn y Canolbarth i ddatblygu cynlluniau sy'n defnyddio cryfderau'r rhanbarth. Bydd y cyllid hwn yn gwneud yr union beth hwnnw, gan ganiatáu i Gynghorau Powys a Cheredigion weithio gyda busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i ddefnyddio gwybodaeth leol i wireddu potensial llawn Cymru yn y Canolbarth.

Mae'r cyfarfod heddiw gyda'r Cynghorwyr Ellen ap Gwynn a Rosemarie Harris wedi rhoi cyfle perffaith i ddechrau trafodaethau ynghylch sut y gellir defnyddio'r arian hwn i adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes a symud tuag at ddatblygu cynlluniau prosiect a fydd yn hybu sgiliau, swyddi ac arloesedd.

Roeddwn hefyd yn falch o glywed bod y rhanbarth bellach yn chwilio am gynrychiolydd o'r sector preifat i arwain y Grŵp Strategaeth Economaidd. Mae cyfranogiad y sector preifat yn hanfodol wrth gyflawni prosiectau a fydd yn creu swyddi ac yn meithrin ffyniant ar draws Canolbarth Cymru ac felly mae'n wych gweld bod y rhanbarth yn gweithio i sicrhau bod y sector preifat yn cymryd rhan bob cam o'r ffordd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu