Toggle menu

Grŵp Cynghori Economaidd yn Cydweithio i roi Hwb i Ddatblygu Rhanbarthol

15.07.24 Yn ddiweddar, cyfarfu aelodau presennol ac aelodau newydd Grŵp Cynghori Economaidd (GCE) Tyfu Canolbarth Cymru am y tro cyntaf gydag Arweinwyr cynghorau Sir Ceredigion a Phowys yng nghanolfan ymwelwyr Cwm Elan i drafod mentrau strategol Bargen Twf Canolbarth Cymru a chydweithio ar ddatblygu twf economaidd y rhanbarth.

Dywedodd Steve Lesbirel, Cadeirydd GCE, "Bellach, mae gennym grŵp llawn sy'n cynnwys arweinwyr entrepreneuraidd o ddiwydiant ac rydym yn edrych ymlaen gyda'n gilydd a gydag angerdd er mwyn helpu i yrru economi Canolbarth Cymru yn ei blaen.  Mae ein grŵp yn cyflawni rôl allweddol wrth gynnig her strategol ac adeiladol i gryfhau cynigion a chynnig cyngor am gyfleoedd newydd i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru eu hystyried."

Mae'r Grŵp Cynghori Economaidd yn gorff annibynnol ar gyfer Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru.  Ei rôl yw cynnig llais busnes yn y Fargen Twf a hyrwyddo'r Fargen mewn ffordd gadarnhaol yng nghymuned fusnes Canolbarth Cymru. Mae'r grŵp yn cynnwys arweinwyr busnes sy'n meddu ar arbenigedd sy'n berthnasol i ranbarth Canolbarth Cymru.

Dywedodd Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys a Chynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyd Gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru, "Rydym wrth ein bodd i gydweithio'n agos ag arweinwyr busnes rhanbarthol i gynnig llais ar gyfer eu sector a rhannu ymatebion strategol ac adeiladol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.

"Mae'r Fargen Twf yn cyrraedd cam cyffrous yn ei datblygiad, a fydd yn gweld rhaglenni a phrosiectau yn symud i'r cam cyflawni, felly mae angen i ni sicrhau bod cynrychiolwyr o fyd busnes yn ein helpu i gryfhau a herio'r Portffolio er mwyn cael yr effaith fwyaf ag y bo modd ar Economi Canolbarth Cymru."

Cafodd y grŵp y cyfle i glywed mwy am brosiect Llynnoedd Cwm Elan gan ddatblygwyr y prosiect, Dŵr Cymru, ac i fynd am dros o gwmpas y safle.  Hwn yw'r prosiect cyntaf yng Nghanolbarth Cymru sy'n symud ymlaen i gam olaf datblygu'r achos busnes er mwyn datgloi cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn rhaglen cyllid cyfalaf sy'n buddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr i gynorthwyo twf economaidd y rhanbarth.

Darllenwch am gefndiroedd a phrofiadau busnes y grŵp ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru/GCE

 

Growing Mid Wales Economic Advisory Group

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu