Toggle menu

Bargen Twf Canolbarth Cymru'n Cyrraedd Y Camau Datblygu Olaf

16.09.2021 - Bydd Bargen Twf Canolbarth Cymru'n wynebu penderfyniad dyrys ar ddiwedd y mis pan fydd angen cymeradwyaeth i gyflwyno'r Achos Busnes Portffolio drafft i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Yn ei gyfarfod ar 21 Medi, bydd gofyn i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ystyried nifer o ddogfennau a fydd yn rhan o Gytundeb terfynol y Fargen ac a fydd yn golygu diwedd cyfnod datblygu Portffolio'r Fargen Twf gyda'r ffocws yn symud i ddatblygu'r Rhaglenni ac Achosion Busnes Prosiectau.

Mae'r Achos Busnes Portffolio sydd wedi'i ddwyn ymlaen eleni, yn rhoi fframwaith ar gyfer y fargen twf a set cyntaf o raglenni a phrosiectau i'w datblygu a'u hystyried ymhellach wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

Datblygwyd o'r Weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, mae gan y cynnig presennol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru y potensial i greu buddsoddiad cyfalaf o rhwng £280 a £400 miliwn dros y 10 - 15 mlynedd nesaf gyda'r posibilrwydd o greu hyd at 1,100 o swyddi gyda gwerth ychwanegol gros o rhwng £570 - 700m i economi'r ardal dros amser.

Bydd ganddo rôl hanfodol yn datgloi a denu buddsoddiad pellach o'r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Ym mis Rhagfyr, ymrwymodd Llywodraethau y DU a Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £55 miliwn yr un ar ôl arwyddo cytundeb penawdau'r telerau gyda dau awdurdod lleol yr ardal.

Cwmpaswyd yr Achos Busnes Portffolio o wyth maes twf blaenoriaeth gan gynnwys cysylltedd digidol, ymchwil ac arloesi cymhwysol, ynni a sgiliau.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Ceredigion: "Mae'r Achos Busnes Portffolio yn gam pwysig yn y Fargen Twf gan baratoi'r ffordd i weld buddsoddiad o filiynau o bunnoedd, creu swyddi a rhoi'r hwb economaidd mwyaf i'r ardal ers cenhedlaeth.

"Yr achos busnes fydd wrth wraidd y fargen twf, ond bydd yn bortffolio byw i'w ddatblygu dros amser gyda mentrau newydd, ychwanegu neu ddileu rhaglenni fel mae'r portffolio'n galw. 

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris: "Mae'n gam mawr, ond mae llawer mwy i'w wneud ac edrychwn ymlaen at weithio gyda thrigolion, ein partneriaid o fewn y sector preifat a'r ddwy lywodraeth er budd ein cymunedau.  Rhaid iddo fod yn strategol ac yn seiliedig ar reolaeth ariannol gadarn sy'n gallu gwireddu twf economaidd i'r ardal.

Ychwanegodd y ddau Arweinydd: "Rydym yn gobeithio cytuno ar y fargen derfynol cyn diwedd y flwyddyn - cyn wedyn gallu symud ymlaen i drafod a llunio manylion y cynigion gyda'n prif bartneriaid yn yr ardal.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu