1. English
Dewislen llywio safle agored

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn, ledled y DU, o fuddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025.

Prif nod yr UKSPF yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU. Mae hyn yn cyd-fynd â chenadaethau Papur Gwyn Ffyniant Bro, yn enwedig: 'Erbyn 2030, bydd balchder yn ei le, megis boddhad pobl gyda chanol eu tref ac ymgysylltu â diwylliant a chymuned leol, wedi codi ym mhob ardal o'r DU, gyda'r bwlch rhwng y rhai sy'n perfformio orau ac ardaloedd eraill yn cau.'

Drwy awdurdodau lleol y mae'r gwaith o gyflawni'r UKSPF ar draws Prydain, ond yng Nghymru cytunwyd y bydd cynghorau yn cydweithio ar sail ranbarthol. O ran rhanbarth Canolbarth Cymru, yr awdurdod arweiniol yw Cyngor Ceredigion ond bydd Cynghorau Powys a Cheredigion yn rheoli'r gwaith o gyflawni prosiectau yn lleol yn eu hardaloedd.

Gwahoddiad i gyflwyno ceisiadau am gyllid

Mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys yn falch o wahodd sefydliadau sydd â diddordeb i wneud cais am gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Darllenwch Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru cyn dechrau ar eich cais os gwelwch yn dda.

Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25 (PDF) [2MB]

Mae gan y ddau awdurdod lleol ddyraniadau ariannol gwahanol sy'n golygu y gallai cynnwys y galwadau am geisiadau fod yn wahanol ym mhob ardal.

Ewch i wefannau'r awdurdod lleol am wybodaeth fanwl:

Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/UKSPFCanolbarthCymru

Powys: https://cy.powys.gov.uk/article/14047/Cronfa-Ffyniant-Gyffredin-y-DU-Yn-Agored-Ar-Gyfer-Ceisiadau

Os ydych yn bwriadu cyflwyno cais rhanbarthol, cysylltwch â'r ddau awdurdod lleol.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch:

Bydd y ffurflen gais a'r nodyn canllaw ar gael ar wefannau'r ddau Gyngor o 20 Mawrth.

Gweminar Canolbarth Cymru Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 16 Mawrth 2023 - Sleidiau Sesiwn Gwybodaeth:  Gweminar Canolbarth Cymru UKSPF Mid Wales Webinar (PDF) [660KB] 

Lluosi

O ddydd Llun Hydref 2ail, bydd prosiectau sy'n gweithredu mewn ardaloedd Llywodraeth Leol yng Ngheredigion a Phowys yn medru ymgeisio am gyllid o'r rhaglen Lluosi. Mae gan Ganolbarth Cymru gyllid o £5 miliwn ar gyfer prosiectau Lluosi hyd at fis Rhagfyr 2024.

Mae'r rhaglen, sy'n rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ceisio denu prosiectau sydd a'r bwriad o wella sgiliau rhifedd gweithredol trwy diwtor personol am ddim, hyfforddiant digidol a chyrsiau hyblyg.

Mae grwpiau sy'n ystyried defnyddio'r gronfa yn medru mynychu gweminar ar Hydref 2ail rhwng 2-3yp i wybod mwy am y camau sydd angen eu cymryd i ymgeisio: bit.ly/GweminarLluosi

Dolenni a Dogfennau Defnyddiol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu