Toggle menu

Gofyn am farn busnesau am dirwedd sgiliau Canolbarth Cymru

22.09.2023 - Mae gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru ddiddordeb yn yr hyn sydd gennych i'w ddweud am yr heriau rydych yn eu hwynebu fel busnes ac ar hyn o bryd mae'n cynnal arolwg byr, 5 munud o hyd i ddarganfod mwy am yr heriau hyn, yn enwedig o ran recriwtio sgiliau, nawr ac yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, ar y cyd: "Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar y dirwedd sgiliau ar gyfer Canolbarth Cymru - trwy ateb yr ychydig gwestiynau hyn gall y Bartneriaeth (nhw) gasglu data pwysig a fydd yn llywio ac yn dylanwadu ar newid yn y lleoedd cywir. 

"Ein gobaith yw bod yr arolwg hwn yn galluogi busnesau i rannu eu profiadau ar fynd i'r afael â'u heriau sgiliau ac uwchsgilio eu gweithlu ar gyfer y dyfodol; a helpu'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i roi gwybod i Lywodraeth Cymru pa ddarpariaeth sgiliau sydd ei hangen arnom er mwyn i'r economi a phobl ar draws Canolbarth Cymru ffynnu."

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn rhan o dîm ehangach Tyfu Canolbarth Cymru. Mae'n un o bedair partneriaeth sgiliau rhanbarthol yng Nghymru. Yn bartneriaeth a arweinir gan fusnesau yn bennaf, mae'n gweithio gydag arweinwyr a rhanddeiliaid busnesau ar draws y rhanbarth i ddeall y ddarpariaeth sgiliau ac anghenion y farchnad lafur er mwyn ysgogi buddsoddiad sy'n bodloni gofynion cyflogwyr a'r gweithlu.

Dolen i'r arolwg: https://www.surveymonkey.co.uk/r/MWRSPSURVEY?lang=cy 

Cynhelir yr arolwg tan ddydd Gwener 27ain Hydref.

I gael yr holl newyddion diweddaraf am y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, gallwch danysgrifio i gylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru drwy e-bostio tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk neu ddilyn ar X/Twitter a LinkedIn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu