17.02.2025 Mae'r cynllun Meithrin Arloesi yn y Clwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru yn croesawu cyhoeddi naw prosiect arloesol o'r rhanbarth sydd wedi sicrhau cyfran o £400,000 o gyllid drwy gystadleuaeth gyllido newydd Innovate UK sy'n canolbwyntio ar arloeswyr newydd ym maes technoleg amaeth a thechnoleg bwyd.
Bydd y cyllid yn galluogi'r prosiectau hyn i sbarduno arloesedd, gwella cynaliadwyedd, a chryfhau safle'r rhanbarth fel arweinydd yn y sector technoleg amaeth a'r sector technoleg bwyd. Dyma'r ymgeiswyr llwyddiannus a sut y maent yn bwriadu defnyddio'r cyllid:
Yr Ardd Fadarch Eryri: Nod Madarch Cymru yw datblygu jerci figan maethlon a llawn 'wmami' sy'n seiliedig ar fadarch i fynd i'r afael â heriau o ran iechyd y cyhoedd drwy leihau faint o halen a thraws-fraster sy'n cael eu bwyta, bodloni gofynion y farchnad led-lysieuol, a hybu bwyta byrbrydau cynaliadwy sy'n ystyriol o iechyd.
Pant Du: Nod Pant Du yw cynhyrchu Finegr Seidr Afal o Gymru gyda manteision iechyd gwell, gan ddefnyddio afalau treftadaeth a seidr dros ben i greu cynnyrch bwyd sy'n cynnig manteision o ran gwell iechyd a lles ac o ran cynhyrchu cynaliadwy.
Pasture Farming Ltd: Mae Tirlun.ai yn System Rheoli Dysgu symudol sydd wedi'i dylunio i foderneiddio hyfforddiant ynghylch ffermio yng Nghymru drwy alluogi perchnogion ffermydd i greu fideos hyfforddi wedi'u teilwra, gan gynnig mynediad ar-alw, dulliau olrhain cynnydd, ac atebion cost-effeithiol i wella cynhyrchiant, effeithlonrwydd a gwaith datblygu sgiliau yn y sector amaethyddol.
Fferm Tyn yr Onnen: Nod Fungi Foods, sydd wedi'i leoli yn Fferm Tyn yr Onnen yng Ngwynedd, yw chwyldroi'r broses o gynhyrchu madarch drwy ddatblygu prosesau wedi'u hawtomeiddio ac y gellir eu hehangu ar gyfer creu blociau, i ateb y galw cynyddol gan archfarchnadoedd a brandiau a chefnogi tyfwyr ar raddfa fach ledled y DU ar yr un pryd.
Bionerg Ltd: Mae'r prosiect hwn yn cefnogi ffermwyr defaid yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru drwy wella cynnyrch cnydau a ffrwythlondeb pridd drwy ddefnyddio bio-olosg a gynhyrchir yn lleol yn gynaliadwy, gan gynnig dewis arall cost-effeithiol yn lle gwrteithiau traddodiadol, a hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy a gwytnwch amgylcheddol ar yr un pryd.
UK Hospitality Solutions Ltd: Nod Sheeps and Leeks yw datblygu cyfres gynaliadwy o brydau parod gan ddefnyddio cynnyrch lleol wedi'i dyfu'n lleol, gan ysgogi ffermio manwl gywir, prosesu arloesol a deunydd pecynnu ecogyfeillgar i ddarparu dewisiadau maethlon a chyfleus a chefnogi twf economaidd rhanbarthol a chynaliadwyedd yng Nghymru ar yr un pryd.
Dyfi Dairy Ltd: Nod y prosiect hwn yw datblygu parlwr godro symudol sy'n cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy i gefnogi pori cylchdro ar ffermydd llaeth yr ucheldir, gan wella'r graddau y caiff carbon ei ddal a'i storio, a gwella iechyd pridd, lles anifeiliaid a bioamrywiaeth a gan gyfrannu ar yr un pryd at nod diwydiant llaeth y DU o fod yn garbon niwtral erbyn 2050.
LanoTech Ltd: Mae'r prosiect hwn yn archwilio dichonoldeb defnyddio lanolin, is-gynnyrch cynaliadwy gwlân defaid Prydain, yn ffynhonnell braster amgen ar gyfer porthiant anifeiliaid monogastrig, gyda'r nod o leihau dibyniaeth ar fewnforion sy'n niweidiol i'r amgylchedd, gwella diogelwch bwyd, ac ychwanegu gwerth at ddiwydiant gwlân y DU.
Ymchwil Tetrim Research (YTR): Bydd YTR yn optimeiddio prosesu sinsir gan ddefnyddio proses sychu drwy chwistrellu a phrofion dadansoddol i archwilio ffyrdd arloesol o ddefnyddio sudd sinsir fel cynhwysyn bwyd a diod amlbwrpas.
Meddai Barbara Green, Rheolwr Prosiect ar gyfer Sefydliad Rheoli Clwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd Canolbarth a Gogledd Cymru, Tyfu Canolbarth Cymru: "Mae'r prosiectau hyn yn dangos yr arloesedd a'r cydweithio sy'n diffinio ein rhanbarth. O arferion ffermio cynaliadwy i dechnoleg bwyd arloesol, bydd y cyllid a sicrhawyd gan y busnesau hyn yn cael effaith drawsnewidiol ar ein heconomi, ein hamgylchedd a'n cymunedau. Rydym yn annog busnesau ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru i ymuno â'r clystyrau Bwyd-Amaeth a Thechnoleg Bwyd i gael gafael ar adnoddau, arbenigedd a chyfleoedd cyllido yn y dyfodol."
Louise Jones, Rheolwr Cymru Innovate UK: "Mae Innovate UK yn falch o gefnogi'r clwstwr Bwyd-Amaeth a'r clwstwr Technoleg Bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Mae'r prosiectau hyn yn dangos potensial arloesedd i fynd i'r afael â heriau critigol ym maes amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd a chynaliadwyedd. Edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau cadarnhaol y bydd y prosiectau hyn yn eu sicrhau i'r rhanbarth a thu hwnt."
Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, drwy'r cynllun Meithrin Arloesi yn y Clwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru, bydd y Sefydliad Rheoli Clwstwr yn cydlynu gweithgareddau ac yn hyrwyddo mwy o gyfleoedd cyllido gan Innovate UK.
Meddai Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Fargen Twf, Uchelgais Gogledd Cymru: "Fel partner yn y prosiect Pwynt Lansio, rydym yn falch iawn o ansawdd y mentrau llwyddiannus hyn, sydd wir yn adlewyrchu ehangder yr arloesi sy'n digwydd ledled ein rhanbarthau."
Anogir busnesau a phartneriaid ymchwil i archwilio cynigion arloesedd yr ardal leol a chymryd rhan yn y clystyrau rhanbarthol.I ddysgu mwy am y cyfleoedd cyllido a sut i gymryd rhan, ewch i www.tyfucanolbarth.cymru/TechAmaethTechBwyd
Innovate UK yw asiantaeth arloesi'r DU ac mae'n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU.
