Toggle menu

Arweinwyr Cynghorau'n Cyfarfod  Llywodraeth Y DU A Llywodraeth Cymru I Gyrraedd Y Cam Nesaf Ar Gyfer Bargen Twf Tyfu Canolbarth Cymru

13.10.2021 - Cyfarfu Arweinwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Ceredigion, yn eu rolau fel cyd-gadeiryddion Cyd-bwyllgor Tyfu Canolbarth Cymru, â'r Aelod Seneddol David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU yng Nghymru, a Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, i drafod Bargen Twf Canolbarth Cymru a chyflawni'r cam nesaf pwysig.

Ar ôl cymeradwyo Achos Busnes Portffolio'r Fargen Dwf yng Nghyd-bwyllgor Tyfu Canolbarth Cymru ar 21 Medi, aeth aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys ymlaen i gymeradwyo'r achos busnes yn unfrydol er mwyn ei gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Diben Achos Busnes y Portffolio yw rhoi trosolwg o gwmpas, swyddogaeth a threfniadau Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru - ar sail cyfres gychwynnol o gynigion Rhaglenni a Phrosiectau, y gellir nawr eu cyflwyno.

Mae Achos Busnes y Portffolio yn nodi'r prif ffigurau ar gyfer gwariant cyfalaf y mae'r Awdurdodau Lleol yn ei geisio gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru, sy'n cyfateb i gyfanswm grant cyfalaf o £110m.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a chyd-gadeirydd Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru. Dywedodd: "Bydd cymeradwyo'r achos busnes yn ein galluogi i gael cyllid i gefnogi prosiectau yn yr ardal a fydd yn rhoi hwb i'r economi leol ac yn creu swyddi. Rydyn ni wir yn gwthio'r cwch i'r dŵr nawr o ran datblygu'r cytundeb sydd mor bwysig i'r rhanbarth."

Bydd Achos Busnes y Portffolio nawr yn cael ei adolygu'n ffurfiol drwy Adolygiad y Swyddog Cyfrifyddu ar ran Bwrdd Gweithredu Bargeinion Twf a Bargeinion Dinesig Cymru (WCGIB) - bwrdd ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru sy'n rheoli Bargeinion Twf a Bargeinion Dinesig Cymru. Yna, bydd yn mynd ymlaen i ategu Cytundeb Terfynol y Fargen rhwng y rhanbarth a'r ddwy Lywodraeth - a'r uchelgais o hyd yw cwblhau hyn cyn diwedd y flwyddyn.

Rosemarie Harries yw Arweinydd Cyngor Sir Powys. Dywedodd: "Mae gallu trafod yr achos busnes yn fanwl a rhannu'r weledigaeth gyda David TC Davies a Vaughan Gething yn gam mawr ymlaen i ni ac rydym yn gwerthfawrogi eu diddordeb yn fawr iawn. Mae llawer o waith wedi'i wneud i ddatblygu'r dogfennau hyn hyd at y cam hwn - ac mae llawer i'w wneud eto."

Ychwanegodd y ddau Arweinydd: "Rydym yn falch ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn, a gobeithiwn y gallwn gwblhau'r Fargen cyn diwedd y flwyddyn fel y gallwn weithio gyda'n busnesau a'n cymunedau i gyflwyno prosiectau o ddifrif y flwyddyn nesaf."

David TC Davies yw Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru. Dywedodd: "Mae'n wych cael clywed mwy o fanylion am y cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru a chymryd y cam nesaf hwn tuag at gyflawni ein nodau. Mae cefnogaeth Llywodraeth y DU, gan weithio gyda'n partneriaid, yn golygu y gallwn sicrhau gwelliannau i bobl Canolbarth Cymru"

Vaughan Gething yw Gweinidog yr Economi. Dywedodd: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu Bargen Twf Canolbarth Cymru, felly rwy'n falch ein bod bellach gam yn nes at gytuno ar Gytundeb Bargen Llawn ar y cyd. Rwyf nawr yn awyddus i weld y Fargen yn cael ei gweithredu, er mwyn i bobl leol, busnesau a chymunedau ddechrau gweld buddsoddiadau'n cael eu gwneud mewn prosiectau a rhaglenni a fydd yn helpu i sicrhau manteision pendant a sylweddol i economi Canolbarth Cymru.

"Wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith adfer ac ailadeiladu sy'n deillio o bandemig Covid, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Canolbarth Cymru, yr ydym yn eu datblygu gyda'n partneriaid mewn ysbryd o gydweithio. Mae'r Fargen Dwf yn rhan annatod o'n cynlluniau i greu swyddi a chyfleoedd newydd mewn cymunedau lleol, a fydd yn ein helpu i ddarparu Canolbarth Cymru gwyrddach, tecach a mwy llewyrchus."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu