Trosolwg
Sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru ym mis Ionawr 2022, ac mae'n cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Ceredigion a Phowys, a Bannau Brycheiniog ar gyfer cynllunio datblygiad strategol. Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru (CBCCC) yn un o bedwar a sefydlwyd ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru. Nod y fenter hon yw gwella democratiaeth ac atebolrwydd lleol trwy integreiddio prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn tri maes hollbwysig: Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol, Cynllunio Datblygiad Strategol a Lles Economaidd.
Aelodau'r Pwyllgor
Mae'r pwyllgor yn cynnwys y ddau Arweinydd ar draws y rhanbarth. Mae rolau'r Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol yn cylchdroi bob blwyddyn. Mae'r aelodau'n cynnwys:
- Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion
- Arweinydd Cyngor Sir Powys
- Is-Gadeirydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (sy'n gysylltiedig â materion sy'n ymwneud â chynllunio strategol yn benodol).
- Cynrychiolwyr uwch o'r sefydliadau uchod
- Prif Swyddogion Gweithredol (PSG)
- Swyddog Monitro
- Prif Swyddog Ariannol (Adran 151)
Strwythur Llywodraethu Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru
Amcanion
Mae gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru y cyfrifoldebau canlynol:
- Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol: Canolbwyntio ar wella'r seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd yn y rhanbarth.
- Cynllunio Datblygiad Strategol: Creu a gweithredu cynlluniau cynhwysfawr ar gyfer twf rhanbarthol cynaliadwy.
- Lles Economaidd: Ysgogi a chynorthwyo prosiectau sy'n ceisio rhoi hwb i'r economi leol.
Cefndir Deddfwriaethol
Mae sefydlu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gan gynnwys yr un ar gyfer Canolbarth Cymru, yn rhan o'r diwygiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Cynlluniwyd y ddeddf hon i feithrin mwy o gydweithredu ac effeithlonrwydd ymhlith awdurdodau lleol yng Nghymru.
Cyfansoddiad Cyd-bwyllgorau Corfforedig
Cyfansoddiad Cyd-bwyllgorau Corfforedig (PDF, 1 MB)