19.08.2022 - Yr hydref hwn yng nghyfarfod blynyddol Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru, cyhoeddwyd mai Emma Thomas yw Cadeirydd newydd y Bwrdd.
Mae Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru yn chwarae rôl allweddol wrth helpu'r rhanbarth i ddatblygu ei weledigaeth ar gyfer dysgu a sgiliau, cynrychioli llais y sector preifat, dylanwadu a chefnogi'r broses o wneud penderfyniadau a hyrwyddo rhanbarth Canolbarth Cymru ar lefel genedlaethol.
Ar hyn o bryd, Emma Thomas yw Rheolwr Adnoddau Dynol ABER Instruments, Gwneuthurwr Gwyddor Bywyd, ac mae wedi bod gyda'r cwmni ers y saith mlynedd a hanner diwethaf. Gyda gradd mewn Marchnata a'r Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, Diploma Israddedig, a Diploma Ôl-raddedig o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn Rheoli Adnoddau Dynol, mae Emma hefyd yn y broses o gwblhau ei gradd Meistr.
Yn ystod cyfnod Emma yn ABER Instruments mae wedi gweithio gyda Gyrfa Cymru, yn fwy diweddar fel Partner Gwerthoedd gydag Ysgol Penglais. Mae hi hefyd wedi hwyluso Cynllun Addysg Beirianneg Cymru ers sawl blwyddyn ar brosiectau peirianneg gyda grwpiau bach o ddisgyblion chweched dosbarth lleol.
Dywedodd Emma Thomas: "Rwy'n teimlo'n angerddol dros ddarparu swyddi o ansawdd da o fewn yr ardal leol. Fel rhan o bwrpas arweiniol ABER Instruments, ein nod yw darparu cyflogaeth sefydlog hirdymor yn Aberystwyth, gan gynnig cyfle i bob gweithiwr dyfu a ffynnu. Fel sefydliad sy'n tyfu, mae nifer ein gweithwyr wedi cynyddu 80% ers 2015. Rwy'n ffodus fy mod wedi cael y cyfle o weithio gydag ysgolion lleol, gan ddarparu teithiau o amgylch y cyfleuster a sgyrsiau ynglŷn â gyrfaoedd. Mae hyn wedi rhoi cyfle gwych i ni ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf a chodi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'n sefydliad, yr hyn rydyn ni'n ei wneud a'r hyn y gallwn ei gynnig.
Rwyf wedi fy nghyffroi gan rôl Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ac yn gobeithio y gallwn fel grŵp helpu i wneud gwahaniaeth drwy sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau gywir ar gael i ddiwallu anghenion a gofynion Canolbarth Cymru. Mae cadw ein pobl ifanc gyda'r sgiliau cywir yn hanfodol i'n heconomi."
Gwnaed y penodiad gan y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys. Dywedon nhw: "Hoffem estyn croeso cynnes i Emma fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Bydd rhai meysydd gwaith pwysig i'r Bwrdd yn y flwyddyn i ddod, megis y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau 3 blynedd newydd 2022-2025, a'i roi ar waith.
"Hoffem ddiolch hefyd i Adrian Watkins am ei ymroddiad a'i waith caled wrth helpu i sefydlu'r Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, yn gyntaf fel Cadeirydd dros dro ac yna fel Cadeirydd parhaol tan y cyfarfod blynyddol lle trosglwyddodd y rôl i Emma. Mae Adrian wedi bod yn allweddol wrth ddod ag aelodau'r Bwrdd at ei gilydd i gydweithio ar feysydd allweddol i'w cyflawni, megis yr adroddiad Gwarant i Bobl Ifanc."
Dywedodd Adrian Watkins: "Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod fel Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a chynrychioli barn busnesau a phartneriaid Canolbarth Cymru yng nghyfarfodydd Llywodraeth Cymru gydag uwch weision sifil. Er fy mod yn camu i lawr fel Cadeirydd, byddaf yn dal yn aelod o'r Bwrdd ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Emma a pharhau i gefnogi gwaith y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol."
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru a datblygiadau eraill Tyfu Canolbarth Cymru drwy fynd i www.tyfucanolbarth.cymru neu dilynwch @GrowingMidWales ar Twitter a Tyfu Canolbarth Cymru | Growing Mid Wales ar LinkedIn.
08.12.2022