13.03.2024 Yn dilyn galwad yn ddiweddar am brosiectau fydd yn ceisio gwella sgiliau rhifedd ymhlith oedolion, cafodd 14* prosiect eu cymeradwyo ledled rhanbarth Canolbarth Cymru.
Drwy raglen 'Lluosi' Llywodraeth y DU, sy'n rhan o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, rhoddir dyraniad o bron i £2 miliwn i gyflwyno amrywiaeth o brosiectau.
Ymhlith y prosiectau sydd wedi cael arian y mae rhai sy'n ymwneud â'r canlynol:
• Cefnogi pobl i fod yn fwy hyderus gyda rhifau.
• Rhedeg cyrsiau i helpu pobl i ddefnyddio rhifedd i reoli eu harian.
• Gweithio gyda chyflogwyr i ddarparu cyrsiau ar y sgiliau rhifedd y mae arnynt eu hangen yn y gweithle.
• Darpariaeth drwy sefydliadau cymunedol er mwyn cysylltu â'r dysgwyr mwyaf anoddaf i'w cyrraedd.
O blith yr 14 prosiect y mae un, sy'n cael ei redeg gan Equal Education Partners, yn cyflwyno cyrsiau sydd wedi'u hanelu at rieni a gofalwyr ledled Powys a Cheredigion. Bydd hon yn rhaglen hybrid a fydd yn cynnwys dysgu ar-lein a wyneb yn wyneb gyda chefnogaeth gan blatfform dysgu ar-lein ar alw. Bydd cyrsiau ar gael i rieni sydd am loywi eu sgiliau rhifedd er mwyn helpu eu plant ac i helpu eu gyrfa eu hunain.
Dywedodd Owen Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Equal Education Partners: "Rydym yn falch iawn o ddarparu cyrsiau i rieni a gofalwyr ledled Canolbarth Cymru gan adeiladu ar ein cysylltiadau cryf ag ysgolion yn y rhanbarth cyfan. Dros y 10 mis nesaf rydym yn bwriadu gweithio gyda 288 o rieni a gofalwyr i'w helpu i gefnogi taith ddysgu eu plant ym mhwnc Mathemateg wrth iddynt ymgyfarwyddo â'r cwricwlwm newydd arloesol i Gymru. Gall rhieni/gofalwyr ddysgu mwy am ein gwaith a chofrestru ar gyfer y cyrsiau drwy fynd i: www.mathsforadultswales.com/contact ."
Mae rhagor o fanylion am y prosiectau penodol i gyd i'w cael ar wefannau cynghorau sir Ceredigion a Phowys.
Ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio, ac y Cynghorydd David Selby, Aelod o Gabinet Powys dros Bowys Mwy Llewyrchus a Chadeirydd Partneriaeth Leol Powys ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, Cyngor Sir Ceredigion: "Rydym yn falch o weld bod sawl sefydliad wedi dod gerbron i gynnig prosiectau sy'n ceisio hybu rhifedd oedolion ledled Canolbarth Cymru. Gallai'r prosiectau hyn fod yn ddolen hanfodol i rai trigolion er mwyn codi eu hyder wrth ddefnyddio mathemateg yn eu bywyd bob dydd neu fe allai fod yn garreg camu i fynd ymlaen yn eu gyrfa."
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r timau lleol: ukspf@ceredigion.gov.uk neu ukspf@powys.gov.uk.
Dilynwch Tyfu Canolbarth Cymru ar X a LinkedIn i gael y newyddion diweddaraf i gyd. Os ydych yn dymuno derbyn cylchlythyrau misol Tyfu Canolbarth Cymru, ebostiwch tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.
* Ar hyn o bryd mae 23 o brosiectau lluosi ar waith ledled Canolbarth Cymru gan fod 9 prosiect eisoes wedi'u cymeradwyo cyn yr alwad agored olaf am Lluosi.