Yn 2020, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys argyfyngau hinsawdd. Mae gan Tyfu Canolbarth Cymru rôl allweddol i'w chwarae wrth ddod â rhanddeiliaid ynghyd ar draws y rhanbarth i hwyluso'r cyfnod pontio hwn, yn ogystal â chefnogi'r Awdurdodau Lleol sy'n cael eu harwain drwy esiampl.
Beth yw'r weledigaeth?
I sicrhau system ynni di-garbon net sy'n darparu buddion cymdeithasol ac economaidd, yn dileu tlodi tanwydd, yn cysylltu'r Canolbarth â gweddill y DU yn well, ac yn cyfrannu at ddatgarboneiddio'r DU yn ehangach.
Pa waith sydd ar y gweill?
Yn 2020, cyhoeddwyd Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru. Ers hynny, mae gwaith wedi dechrau i nodi camau gweithredu strategol a thasgau i benderfynu beth sydd angen digwydd, ar lawr gwlad, gan bwy i ddatgarboneiddio'r system ynni.
Mae'r strategaeth yn nodi chwe blaenoriaeth allweddol:
1. Gyrru ymlaen datgarboneiddio stoc tai ac adeiladau'r rhanbarth
2. Gweithio'n rhagweithiol i sicrhau bod gridiau trydan a nwy yn y rhanbarth yn addas ar gyfer dyfodol 100% datgarboneiddio
3. Hybu'r deCyngor Sir Ceredigion: fnydd o ynni adnewyddadwy trwy gynhyrchu a storio newydd
4. Cyflymu'r newid i gludiant di-garbon a gwella cysylltedd
5. Datblygu a harneisio potensial amaethyddiaeth i gyfrannu at nodau di-garbon
6. Harnesio arloesedd i gefnogi datgarboneiddio a thwf glân
Mae'r ddau gyngor wedi datblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol a fydd yn gwthio'r gwaith hwn yn ei flaen ymhellach.
Beth yw Cynllun Ynni Ardal Leol?
Comisiynwyd Catapult Energy Systems ac Afallen i greu Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYALl) ar gyfer Ceredigion a Phowys. Bydd y cynlluniau hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer galluogi gweithredu lleol effeithiol a fydd yn cyfrannu at darged allyriadau sero net 2050.
Mae Cynllunio Ynni Ardal Leol yn ddull sy'n cael ei yrru gan ddata sy'n ceisio gwella ein dealltwriaeth o sut mae ardal leol yn debygol o ddatgarboneiddio ei sector ynni. Mae modelu Cynllunio Ynni Ardal Leol yn cynnwys popeth o gyflenwad ynni a'r galw i drafnidiaeth, adeiladau a diwydiant. Cynlluniwyd y cynlluniau lleol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid o bob rhan o Ganolbarth Cymru.
Mae'r allbynnau'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn gynllun gofodol sydd yn nodi: beth yw'r atebion, lle y dylid eu defnyddio, faint y byddant yn ei gostio, pryd y dylid eu dilyn a chan bwy.
Mae'r atebion yn cynnwys cymysgedd o:
- Buddsoddiad seilwaith grid
- Technolegau carbon isel (e.e. cynhyrchu trydan adnewyddadwy, pympiau gwres, cerbydau trydan)
- Datrysiadau sy'n lleihau'r galw am ynni (e.e. mesurau effeithlonrwydd ynni, teithio llesol
Pam mae'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn bwysig?
- Er bod camau'n cael eu cymryd i drosglwyddo i allyriadau sero-net yng Nghanolbarth Cymru (e.e. datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus, cyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan), mae angen i gyflymder y newid gynyddu'n sylweddol.
- Mae Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn helpu i nodi lle gall rhanddeiliaid yng Nghanolbarth Cymru ddod ynghyd i weithio tuag at drosglwyddo i system ynni carbon isel, teg a chyfartal lle gellir creu a chynnal buddionyn ein rhanbarth. Bydd y gwaith hwn yn ategu gwaith ynni rhanbarthol ehangach sydd ar y gweill sydd, yn rhannol, yn llywio polisi ynni Llywodraeth Cymru.
- Mae Llywodraethu Cymru wedi ymrwymo i raglen fawr o gyflwyno Cynlluniau Ynni Ardal Leol, fel y bydd gan bob rhan o Gymru gynllun. Gwyliwch y fideo canlynol gan Lywodraeth Cymru sydd yn esbonio Cynlluniau Ynni Ardal Leol yng Nghymru: https://youtu.be/kUGUMZzrfI4
Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyhoeddi eu Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn 2024, yna bydd y rhain yn cael eu graddio i greu Cynllun Ynni Cenedlaethol i Gymru, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad yn y dyfodol ar gyfer pob rhan o Gymru. Yn ddiweddar, mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys wedi cymeradwyo eu Cynlluniau Ynni Ardal Lleol (CYALl). Bydd adroddiadau CYALl ar gael i'w gweld yma cyn bo hir.
Ydych chi'n chwilio am gefnogaeth?
I gael gwybod mwy am ba gymorth sydd ar gael i chi, ewch i wefan eich awdurdod lleol:
Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/gwybodaeth-a-chymorth-ariannol/cynlluniau-effeithlonrwydd-ynni/
Cyngor Sir Powys: https://cy.powys.gov.uk/article/13358/Cyngor-ar-ynni-ir-cartref
Delwedd: © 2023 Energy Systems Catapult.
Am ddogfennau sy'n ymwneud ag Ynni a Sero Net, ewch i'r tab Astudiaethau Ymchwil ar ein tudalen Dogfennau.