Toggle menu

Arloesi i optimeiddio gridiau gwledig drwy gymunedau amaethyddol

Sut y gellir defnyddio arloesedd i reoli galwadau ar gridiau ynni gwledig, gan ddefnyddio'r rhyngweithio rhwng y sector amaeth a'r sector diwydiannau tir a chymunedau gwledig, gan ddarparu atebion i gyflymu datgarboneiddio?

Mae'r Cynllunio Ynni Ardal Leol (CYALl) ar gyfer Powys a Cheredigion yn tynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad o £559 miliwn mewn seilwaith grid ar draws y rhanbarth, er mwyn hwyluso'r trosglwyddiad ynni i sero net. Gall rheoli'r galw ar gridiau gwledig mewn ffyrdd mwy arloesol yn helpu i leihau'r cost hwn, tra hefyd â'r potensial ar gyfer budd ehangach. Doedd peiriannau amaethyddol ac allyriadau o ddefnydd tir, sydd ill dau yn rhan sylweddol o allyriadau'r rhanbarth, ddim yn rhan o gwmpas y CYALl. Os caiff peiriannau amaethyddol eu trydaneiddio, bydd yn creu galw ychwanegol ar grid cyfyngedig.

Mae angen cynyddu capasiti is-orsafoedd ar draws pob parth yn y ddau awdurdod lleol, hyd at 51 MW ym Mhowys a 31 MW yng Ngheredigion, sy'n debygol o gymryd amser. Mae gan Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES)  y potensial i ddarparu ateb mwy cost-effeithiol a chynaliadwy i'r broblem hon. Yn ogystal, gall lleihau a gwneud y gorau o'r galw ar seilwaith y grid gwledig gynyddu'r cyflymder y gall prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd gael eu datblygu a gwella sut mae'r gymuned leol yn eu gweld.

Mae gan Ganolbarth Gwledig Cymru gymuned amaethyddol gref ac yn sector economaidd pwysig gyda nifer fawr o weithwyr ar draws y rhanbarth. Credwn fod yr her hon yn rhoi cyfle i gyflenwyr arloesi i ddatblygu atebion newydd a deallus a all gefnogi datgarboneiddio'r diwydiant amaethyddol yn ogystal â'r rhanbarth ehangach. Gall yr economi wledig ehangach hefyd chwarae rhan yn y prosiect, er enghraifft datgarboneiddio cadwyni cyflenwi lleol; sicrhau mwy o fudd i'r ardal. 

Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi llwyddo i wneud cais i gronfa her Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan mewn Datgarboneiddio (WSRID) Llywodraeth Cymru. Mae caffael ar gyfer y cyllid hwn bellach wedi cau. Dyma'r ymgeiswyr llwyddiannus, i gael cyllid i gynnal astudiaethau dichonoldeb i ddatgarboneiddio amaethyddiaeth, ynghyd â chrynodeb o ffocws eu hastudiaethau:

Asiantaeth Ynni Hafren Gwy: Systemau Ynni Lleol Clyfar ar gyfer parciau diwydiannol - Llandysilio ger Y Trallwng

Mae Asiantaeth Ynni Hafren Gwy yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb ynghylch gweithredu Systemau Ynni Lleol Clyfar mewn parciau diwydiannol a pharciau busnes ym Mhowys a Cheredigion. Nod y prosiect yw lleihau'r galw am ynni ar y grid drwy hybu'r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol a storio ynni mewn batris. Bydd busnesau yn cynhyrchu trydan o baneli solar, yn storio unrhyw ynni sydd dros ben mewn batris, ac yn ei ddefnyddio yn ystodau oriau brig i leihau eu dibyniaeth ar y grid y mae cyfyngiadau'n perthyn iddo.

Bydd yr astudiaeth yn archwilio'r defnydd a wneir o ynni ar safleoedd diwydiannol, er mwyn creu adroddiadau ynghylch ynni ac argymhellion ynghylch gwaith ôl-osod. Drwy alinio gwaith cynhyrchu ynni'n lleol â'r galw, nod y prosiect hwn yw rhyddhau capasiti'r grid a'i gwneud yn bosibl defnyddio tir i gynhyrchu ynni solar ac i amaethu; defnyddio peiriannau amaethyddol sydd wedi'u trydaneiddio; a mabwysiadu cerbydau trydan mewn ardaloedd gwledig.


Y Ganolfan Cydraddoldeb Ynni: HARVEST (Holistic Agricultural and Rural Virtual Energy System Transition) - Llanidloes

Mae'r prosiect HARVEST yn gysyniad arloesol sy'n golygu bod systemau ynni adnewyddadwy—megis paneli solar a batris—sy'n eiddo i gartrefi, ffermydd a busnesau yn gallu cael eu cysylltu â'i gilydd mewn Gorsaf Bŵer Rithwir sydd wedi'i datganoli ac sy'n cael ei gyrru gan y gymuned. Mae'r model hwn sy'n eiddo i'r gymuned yn galluogi cyfranogwyr i storio, gwerthu a rheoli ynni'n lleol, gan leihau'r pwysau ar y grid mewn ardaloedd gwledig a lleihau costau ynni.

Mae'r prosiect yn rhoi pwys ar ymgysylltu â'r gymuned ac mae'n canolbwyntio ar gartrefi ag incwm isel a chartrefi sy'n agored i niwed, gan sicrhau bod pawb yn gallu cael budd o'r manteision sy'n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy. Drwy gyfuno gwaith cynhyrchu ynni adnewyddadwy â marchnadoedd hyblygrwydd, byddai'r Orsaf Bŵer Rithwir yn ailfuddsoddi unrhyw elw mewn prosiectau cymunedol. Bydd yr astudiaeth hefyd yn archwilio sut y gall asedau sy'n eiddo i amaethwyr, megis systemau solar a systemau batris ar ffermydd, helpu i leihau costau gweithredu ffermydd a chyfrannu i'r rhwydwaith ynni ehangach.


Challoch Energy: Ynni gwledig i bentrefi yng nghanolbarth Cymru (VREM-Cymru) (Pentref Ynni Gwledig) - Ymchwilio pa gymunedau sy'n addas mewn lleoliadau ar draws y ddwy sir, gyda'r nod o sicrhau dyraniad teg ar draws y ddau Awdurdod Lleol

Mae Challoch Energy yn ymchwilio i sut y gall Systemau Ynni Lleol Clyfar ddatgarboneiddio cymunedau gwledig a chynnig manteision ariannol ar yr un pryd. Enw'r prosiect yw Ynni Gwledig i Bentrefi yng Nghanolbarth Cymru (VREM-Cymru), ac mae'n canolbwyntio ar integreiddio gwaith cynhyrchu hydrogen â ffynonellau ynni adnewyddadwy megis ynni gwynt, ynni solar ac ynni dŵr. Mae'r dull hwn o weithredu nid yn unig yn mynd i'r afael â chyfyngiadau'r grid ond hefyd yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd ac yn lleihau costau ynni cymunedau.

Bydd yr astudiaeth yn mapio'r galw am ynni mewn ardaloedd gwledig ac yn gwerthuso dichonoldeb creu rhwydwaith ynni lleol. Bydd y canfyddiadau'n ceisio llywio polisi ar rôl hydrogen mewn systemau ynni, gan gynnig atebion y gellir eu rhoi ar waith ar raddfa fwy ym maes datgarboneiddio cartrefi, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth, a hynny mewn modd teg a chynaliadwy.


Lafan a Choleg Sir Gâr:Defnydd cynaliadwy o slyri da byw ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy, optimeiddio'r grid ac allforio maethynnau gweddilliol i ganolfan driniaeth ganolog - Felinfach

Mae Lafan, mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr, yn archwilio ffyrdd o ddefnyddio slyri da byw fel adnodd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac adennill maethynnau. Bydd eu hastudiaeth ddichonoldeb yn ymchwilio i'r posibilrwydd o sefydlu canolfan i brosesu slyri o ffermydd clwstwr. Mae'r broses yn cynnwys treulio anaerobig er mwyn cynhyrchu bio-nwy; adennill maethynnau er mwyn lleihau effeithiau amgylcheddol; a phyrolysis er mwyn creu bio-olosg.

Mae'r dull arloesol hwn o weithredu yn mynd i'r afael â heriau megis dŵr ffo sy'n cynnwys maethynnau gweddilliol, sy'n effeithio ar ansawdd dŵr a bioamrywiaeth, ac mae hefyd yn cynnig atebion ymarferol i ffermwyr o ran datgarboneiddio. Drwy glustnodi safleoedd posibl sy'n cynnwys Volac, sef cyfleuster modern sy'n cynhyrchu cynnyrch llaeth yn Felin-fach yng Ngheredigion, nod yr astudiaeth yw creu model y gellir ei efelychu ac sy'n cyd-fynd â nodau Llywodraeth Cymru o ran allyriadau sero net ac arferion amaethyddol cynaliadwy.


Water to Water: Systemau Ynni Lleol Clyfar ar gyfer ffermydd llaeth - Ffermydd First Milk yng Ngheredigion

Gan gydweithio â First Milk, mae'r prosiect Water to Water yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio Systemau Ynni Lleol Clyfar ar ffermydd llaeth. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar deilwra atebion o ran ynni i anghenion unigryw ffermydd yng Ngheredigion, er enghraifft yr angen i gael trydan i ddefnyddio offer godro a chynhesu dŵr a'r angen i gael systemau storio. Y nod yw galluogi ffermydd i gynhyrchu a storio 100% neu fwy o'r ynni y mae arnynt ei angen, o ffynonellau adnewyddadwy.

Bydd yr astudiaeth yn archwilio sut y gall ffermydd fod yn hunangynhaliol o ran ynni a lleihau eu hallyriadau CO2 ar yr un pryd. Drwy fynd i'r afael ag anghenion cymunedau a gridiau gwledig o ran ynni, mae'r prosiect hwn yn cynorthwyo'r sector amaethyddol ar ei siwrnai tuag at fod yn sector sero net ac mae'n arddangos atebion y gellir eu rhoi ar waith ar raddfa fwy ac y gellir eu hefelychu ar draws canolbarth Cymru a thu hwnt.


 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu