Amdamoni Ni
Mae'r ardal Trafnidiaeth Canolbarth Cymru, a elwid gynt yn TraCC, yn cynnwys canolbarth Cymru o'r ffin â Lloegr yn y dwyrain hyd at arfordir Cymru yn y gorllewin ac yn cynnwys awdurdodau lleol Powys a Geredigion. Hefyd, mae'r ardal yn cynnwys rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O 1 Ebrill 2024, cynllunio Trafnidiaeth Canolbarth Cymru yw cyfrifoldeb Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru.

Beth fyddwn ni'n ei wneud?

Byddwn yn cydweithio â swyddogaethau priffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion a Powys, i gynllunio a dylanwadu ar bolisi ar atebion rhanbarthol penodol i faterion trafnidiaeth integredig, datgarboneiddio lleol.
Byddwn yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni ei strategaeth drafnidiaeth genedlaethol a fydd yn integreiddio polisïau trafnidiaeth ar sail ranbarthol ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol mewn cydweithrediad â phartneriaid.
Ein gweledigaeth bresennol yw:

"Cynllunio ar gyfer, a darparu mewn partneriaeth, system drafnidiaeth integredig yn rhanbarth Canolbarth Cymru sy'n hwyluso datblygu economaidd, yn sicrhau mynediad i bawb i wasanaethau a chyfleoedd, cynnal a gwella ansawdd bywyd cymunedol ac yn parchu'r amgylchedd".
Ymgynghoriad ar Gynllun Drafft Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Mae Tyfu Canolbarth Cymru, sydd hefyd yn gweithredu fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth, yn gyfrifol am gynllunio trafnidiaeth ranbarthol, cynllunio defnydd tir strategol, a hyrwyddo lles economaidd.
Mae trafnidiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd, gan lunio'r ffordd rydym yn cael mynediad at waith, addysg, gofal iechyd, a hamdden.
Mewn cydnabyddiaeth o'i bwysigrwydd, mae'r Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) i nodi sut y byddant yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Drafnidiaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn trawsnewid trafnidiaeth yn y rhanbarth.
Mae'r drafft CTRh yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol i greu system drafnidiaeth gynaliadwy, carbon isel ac effeithlon. Bydd yn canolbwyntio ar wella cysylltedd o fewn a'r tu hwnt i Ganolbarth Cymru wrth fynd i'r afael â heriau sy'n unigryw i'n tirlun gwledig.
Mae nodau allweddol y CTRh yn cynnwys:
- Cynyddu mynediad at ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy fel beicio, cerdded, a trafnidiaeth cyhoeddus.
- Gwella cysylltiadau trafnidiaeth i hybu twf economaidd a thwristiaeth.
- Cefnogi ymdrechion i leihau yr effeithiau amgylcheddol gan drafnidiaeth
Gwelwch y Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru (Drafft) (PDF, 2 MB)
Mae crynodeb o'r cynllun hefyd ar gael: Dogfen Cryno Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru (PDF, 435 KB)
Teclyn Asesu Effaith Integredig CTRh: Teclyn Asesu Effaith Integredig CTRh (PDF, 541 KB)
Mae'r atodiadau a'r Asesiad Effaith Integredig ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd. Bydd copïau Cymraeg ar gael gyda'r Cynllun Terfynol.
Gwyliwch fideo llawn gwybodaeth am y CTRh: https://youtu.be/v_eznQ4eyew?feature=shared
Mae'r CTRh yn cael ei ddatblygu ar y cyd â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, dan arweiniad Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 gan Lywodraeth Cymru. Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn gam hanfodol yn y broses, gan roi cyfle i chi lunio'r cynllun terfynol.
Rydym yn gwahodd trigolion, busnesau, ac ymwelwyr i rannu eu barn ar y cynigion a chyfrannu at siapio dyfodol trafnidiaeth y rhanbarth. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a gawn, a bydd yn cael ei ystyried pan rydym yn datblygu'r CTRh terfynol a gyhoeddir yng Ngwanwyn 2025.
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch ein arolwg Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar-lein. Cyflwynwch eich ymateb erbyn 23:59 ar ddydd Gwener 4 Ebrill 2025.
Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, e-bostiwch tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru.
Sut i gysylltu â ni:
Gallwch gysylltu â'r Swyddogion Rhanbarthol ym Mhowys a Cheredigion drwy:
tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru