1.1 Trosolwg
1.1.1 Yn gyffredinol
I sicrhau llwyddiant parhaus Bargen Twf Canolbarth Cymru, rhaid i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ystyried cynlluniau wrth gefn pe bai rhai prosiectau'n methu â symud yn eu blaen neu'n methu â chyflawni'r buddion a ddisgwylir ganddynt. Bydd adolygiad cynhwysfawr o'r Portffolio presennol yn helpu i adnabod mentrau sy'n tangyflawni ac yn helpu i benderfynu a ddylai rhai prosiectau gael eu terfynu'n gynnar dan ddull gweithredu sy'n golygu 'methu'n gyflym'.
Ar yr un pryd, ceir cyfle gwerthfawr i gyflwyno prosiectau newydd i Bortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru. Rhaid i unrhyw ddarpar brosiect ddangos aliniad strategol ag amcanion buddsoddi'r Fargen Twf a dangos parodrwydd i symud yn gyflym. Bydd cyfres o ffactorau llwyddiant allweddol yn arwain camau cyson a thryloyw i asesu'r prosiectau a fydd wedi gwneud cais.
Bydd creu rhestr gadarn o brosiectau arfaethedig sydd wedi'u halinio yn dda ac sy'n barod ar gyfer buddsoddiad yn galluogi'r Bwrdd i ymateb yn sydyn i gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg. Bydd cefnogi mentrau hyfyw, a pharatoi opsiynau amgen credadwy ar yr un pryd, yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd ac i bartneriaid mewn llywodraethau bod cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol a hyblyg posibl a gyda'r bwriad strategol eithaf.
1.1.2 Ein hamcanion buddsoddi
Bydd Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyflawni'r canlyniadau canlynol erbyn 2032:
- Ehangu ein heconomi: Datblygu cyfleoedd newydd o'n hasedau - gan ganolbwyntio ar werth uchel ac ar gyfleoedd sy'n hybu twf.
o I greu rhwng 1,100 a 1,400 o swyddi newydd net, cyfwerth ag amser llawn yn y canolbarth drwy'r Fargen Twf erbyn 2032
o I gefnogi cynnydd ychwanegol net mewn Gwerth Ychwanegol Gros, sydd rhwng £570 miliwn a £700 miliwn ar gyfer economi'r canolbarth drwy'r Fargen Twf erbyn 2032
o I fuddsoddi cyfanswm o rhwng £280 miliwn a £400 miliwn yn economi'r canolbarth drwy'r Fargen Twf erbyn 2032
§ O leiaf £170 miliwn ar ffurf buddsoddiad gan y sector preifat
- Cryfhau ein heconomi: Cynorthwyo ein diwydiannau a'n gweithlu presennol i fod yn fwy cydnerth, drwy feithrin capasiti a chreu'r amodau cywir ar gyfer twf yn y dyfodol.
- Cysylltu ein heconomi: Gwella cysylltedd digidol o fewn y rhanbarth, ar ei draws a'r tu allan iddo er mwyn sicrhau bod y rhanbarth yn lle deniadol i weithio, byw a chwarae ynddo.
1.1.3 A yw'r cyfle hwn yn addas i'ch sefydliad chi?
A yw eich prosiect yn barod i helpu i lunio dyfodol y canolbarth? Rydym yn chwilio am brosiectau uchelgeisiol sydd wedi'u halinio yn strategol i ymuno â Rhestr o Brosiectau Arfaethedig Tyfu Canolbarth Cymru. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi'ch hun:
- A yw eich sefydliad yn sbarduno newid trawsnewidiol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi ranbarthol?
- A yw eich prosiect yn cyd-fynd ag amcanion buddsoddi Bargen Twf Canolbarth Cymru?
- A all eich prosiect gael ei ddatblygu a'i gyflawni o fewn amserlen y Fargen Twf?
- A fydd cymorth gan Fargen Twf Canolbarth Cymru yn galluogi eich prosiect i fod yn fwy uchelgeisiol ac i gyflawni buddion mwy helaeth?
Os gwnaethoch roi ateb cadarnhaol i unrhyw un o'r cwestiynau uchod, gallai eich prosiect fod yn ymgeisydd cryf i'w gynnwys yn Rhestr o Brosiectau Arfaethedig Tyfu Canolbarth Cymru.
Drwy gyflwyno eich cynnig, byddwch yn helpu i sicrhau bod y canolbarth yn barod i weithredu'n gyflym pan fydd cyfleoedd o ran cyllid yn codi - gan gryfhau ein Portffolio a chyflymu twf rhanbarthol.
1.2 Pwy all wneud cais
Mae'r Alwad Ffurfiol yn agored i sefydliadau sy'n gweithredu yn y sectorau sy'n flaenoriaeth i Tyfu Canolbarth Cymru, ac maent yn cynnwys y canlynol:
- Busnesau preifat
- Dau awdurdod lleol y rhanbarth
- Cyrff eraill yn y sector cyhoeddus
- Elusennau cofrestredig.
Paramedrau'r cyllid a'r hyn a ddisgwylir
Disgwylir y bydd cyfanswm costau cyfalaf y prosiectau a gefnogir drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru rhwng £500,000 a £25 miliwn.
Gall Bargen Twf Canolbarth Cymru gynnig cyllid ar gyfer bwlch o ran hyfywedd—yn niffyg popeth arall—er mwyn helpu i sicrhau bod modd i brosiect gael ei gyflawni'n gyffredinol.
Rhaid i ymgeiswyr:
- Amlinellu'n glir sut y maent yn bwriadu ariannu gweddill cyfanswm cost y prosiect
- Cynnwys manylion am unrhyw gostau refeniw neu ddatblygu nad ydynt yn perthyn i'r amcangyfrif o gyfalaf
- Darparu'r wybodaeth ariannol hon ar Ffurflen yr Asesiad Strategol.
Bydd pob prosiect yn rhwym wrth gyfradd ymyrryd a gytunwyd, a fydd yn pennu cyfran y cyllid a ddarperir gan Fargen Twf Canolbarth Cymru.
PWYSIG: Ni fydd cyfraniad Bargen Twf Canolbarth Cymru yn fwy na 40% o gyfanswm y costau cyfalaf.
1.3 Pethau y mae angen i chi eu gwybod
1.3.1 Y prif egwyddorion
Cyn cyflwyno cynnig, rydym yn argymell yn daer eich bod yn cael sgwrs gychwynnol â'n Swyddfa Rheoli Portffolio. Gallwch gysylltu â'r tîm yma: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru
Er mwyn i brosiectau gael eu hystyried i'w cynnwys ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru, rhaid iddynt fodloni'r egwyddorion craidd canlynol:
- Aliniad strategol
Rhaid bod y prosiectau'n cyd-fynd â gweledigaeth Tyfu Canolbarth Cymru a'u bod yn cyfrannu i amcanion buddsoddi Bargen Twf Canolbarth Cymru—megis creu swyddi, cynyddu Gwerth Ychwanegol Gros, a denu buddsoddiad ychwanegol. - Datblygu achos busnes
Rhaid i bob prosiect a ddewisir ddilyn Model Busnes 5 Achos Trysorlys Ei Fawrhydi. Bydd Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn darparu arweiniad a chymorth drwy gydol y broses honno. - Safonau rheoli prosiect
Rhaid i'r prosiectau ddangos trefniadau cadarn ar gyfer y canlynol:- Cynllunio i gyflawni
- Rheoli risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau
- Gwireddu buddion
- Monitro a gwerthuso
- Llywodraethiant ac adrodd
- System adrodd ganolog
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn gweithredu platfform adrodd canolog. Mae'n ofynnol i bob prosiect ddefnyddio'r system hon i reoli prosiect a darparu diweddariadau rheolaidd ynghylch cynnydd. - Gofynion o ran cyllid
- Rhaid i sefydliadau sy'n noddi sicrhau o leiaf 60% o gyfanswm y costau cyfalaf, yn ogystal â sicrhau'r refeniw angenrheidiol i gynorthwyo i ddatblygu'r prosiect a pharatoi achos busnes.
- Dim ond ar ôl i Achos Busnes Llawn gael ei gymeradwyo y bydd cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cael ei ddyfarnu.
- Gellir hawlio costau datblygu cyfalaf cymwys yn ôl-weithredol o'r adeg y caiff yr Achos Busnes Amlinellol ei gymeradwyo.
- Y broses ddiofyn ar gyfer hawlio costau cyfalaf yw drwy daliadau bob chwarter am gostau yr aethpwyd iddynt.
- Nid oes unrhyw gyllid ar gael ymlaen llaw i ddatblygu prosiectau. Fodd bynnag, pan fydd grant wedi'i ddyfarnu, gellir hawlio costau cymwys yn ôl-weithredol.
- Caiff unrhyw gostau cyflawni cymwys hefyd eu hawlio'n ôl-weithredol bob chwarter.
PWYSIG: Mae'n hanfodol cynllunio yn ofalus. Dylech sicrhau bod gan eich prosiect amserlen glir, amcangyfrifon realistig o gostau, a mynediad i'r arbenigedd proffesiynol sy'n ofynnol i ddatblygu achos busnes cryf.
1.3.2 Beth y byddwn yn ei ariannu
Bydd pob prosiect a gefnogir drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhwym wrth gyfradd ymyrryd a gytunwyd. Ym mhob achos, ni fydd cyfraniad Bargen Twf Canolbarth Cymru yn fwy na 40% o gyfanswm costau cyfalaf y prosiect. Rydym yn ariannu prosiectau:
- Sy'n cyd-fynd ag o leiaf un o flaenoriaethau strategol Tyfu Canolbarth Cymru:
o Amaethyddiaeth, Bwyd a Diod- Adeiladu ar sylfaen amaethyddol fywiog a photensial o ran arloesi er mwyn arwain datblygu bwyd sy'n uchel ei werth
o Ymchwil Gymhwysol ac Arloesi- Ysgogi asedau ymchwil a datblygu a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn hybu cynhyrchiant a chystadleurwydd
o Cynnig Cryfach ar gyfer Twristiaeth- Manteisio ar asedau naturiol a diwylliannol er mwyn tyfu economi ymwelwyr sy'n gydnerth ac yn uchel ei gwerth
o Ynni - Sicrhau bod y canolbarth yn arwain ym maes cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac ym maes systemau ynni'r dyfodol
o Cefnogi Menter- Creu'r amodau i fusnesau ddechrau, tyfu a ffynnu gyda'r seilwaith a'r cymorth cywir
o Digidol - Buddsoddi mewn seilwaith digidol er mwyn datgloi potensial economaidd a mynediad gwell i wasanaethau
o Trafnidiaeth- Gwella cysylltedd er mwyn hybu twf busnesau, hybu gallu llafur i symud o le i le, a hybu integreiddio rhanbarthol
o Sgiliau a Chyflogaeth- Sicrhau gweithlu medrus sy'n diwallu anghenion diwydiannau ac sy'n hybu cyfranogiad economaidd cynhwysol
- Sy'n ystyried pob un o'r tri amcan buddsoddi:
o Cyfanswm buddsoddiad cyfalaf o £280-400 miliwn
o 1,100 i 1,400 o swyddi ychwanegol net, cyfwerth ag amser llawn
o £570-700 miliwn o Werth Ychwanegol gros ychwanegol net
- Sydd â chynllun cyflawni clir a strwythuredig sy'n cynnwys dechrau, canol a diwedd pendant.
- Sy'n dangos angen clir am fuddsoddiad gan Fargen Twf Canolbarth Cymru, sy'n dangos sut y bydd y cyllid yn datgloi neu'n cyflymu gwaith cyflawni ac effaith.
Gall Bargen Twf Canolbarth Cymru gefnogi ystod eang o gostau cyfalaf uniongyrchol, gan gynnwys y canlynol:
- Gwaith cyfalaf- megis codi eiddo newydd, ymestyn a moderneiddio eiddo, a phrosiectau cadwraeth.
- Ffïoedd a gwasanaethau proffesiynol- sy'n cynnwys dylunio, cynllunio, ac ymgynghori technegol.
- Costau gwaith hyrwyddo a digwyddiadau- sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyflawni'r prosiect.
- Yswiriant sy'n ymwneud â phrosiectau- os yw'n ofynnol i gyflawni cyfalaf.
- Caffael tir- a chostau cyfreithiol neu drafodaethol cysylltiedig â hynny.
Nodwch: Mae arweiniad manwl ar gael ynghylch costau cyfalaf cymwys. Dylech gysylltu â Swyddfa Rheoli'r Portffolio i gael rhagor o wybodaeth.
1.3.3 Eich cyfraniad chi i gostau'r prosiect
Bwriedir i Fargen Twf Canolbarth Cymru ysgogi cyllid ar y cyd gan bartneriaid prosiectau ar draws y Portffolio cyfan.
Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth gan Fargen Twf Canolbarth Cymru:
- Rhaid i sefydliadau arweiniol sicrhau o leiaf 60% o gyfanswm costau cyfalaf y prosiect.
- Gall y cyfraniad hwnnw gynnwys:
- Cyfraniadau sydd ar ffurf arian parod a chyfraniadau nad ydynt ar ffurf arian parod
- Gwerth safle neu dir
- Cyllid o ffynonellau eraill, gan gynnwys grantiau gan gyllidwyr eraill yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat.
Bwriedir i gyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru ategu—yn hytrach na disodli—ffynonellau buddsoddi eraill. Bydd dangos trefniadau cadarn ar gyfer cyllid ar y cyd yn cryfhau achos eich prosiect dros gael cymorth.
1.3.4 Hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg
Rhaid i bob prosiect a gefnogir drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru hyrwyddo ac adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru yn weithredol. Mae hynny'n cynnwys sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg ym mhob agwedd ar y gwaith o gyflawni'r prosiect.
Rhaid i ymgeiswyr:
- Ddangos sut y byddant yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r Gymraeg drwy gydol oes y prosiect.
- Adlewyrchu hunaniaeth ddwyieithog y rhanbarth mewn gwaith cyfathrebu, ar arwyddion, mewn digwyddiadau ac wrth ymgysylltu â'r cyhoedd.
- Cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy'n darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus.
Yn ogystal, rhaid i brosiectau lynu wrth y canlynol:
- Safonau'r Gymraeg sydd wedi'u nodi gan Gomisiynydd y Gymraeg a'u mabwysiadu gan Gyngor Sir Ceredigion.
- Yr egwyddorion a amlinellir ym Mholisi Cyngor Sir Ceredigion ynghylch y Gymraeg ar gyfer Dyfarnu Grantiau, a ddefnyddir wrth asesu ceisiadau er mwyn sicrhau y cydymffurfir â rhwymedigaethau ieithyddol.
1.3.5 Rheoli cymorthdaliadau
Mae unrhyw gyllid a ddyfernir drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru yn rhwym wrth ofynion Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022. Mae'r ddeddfwriaeth honno'n llywodraethu'r modd y mae awdurdodau cyhoeddus yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch economaidd, ac yn sicrhau nad yw cymorth o'r fath yn gwyrdroi cystadleuaeth neu fasnach.
Y diffiniad o gymhorthdal yw cymorth ariannol o arian cyhoeddus, sy'n rhoi mantais economaidd i fusnes sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau masnachol. Mae cymorth o'r fath yn cynnwys grantiau, benthyciadau, gwarantau a mathau eraill o gymorth.
Pwyntiau allweddol i ymgeiswyr:
- Dylech ymgyfarwyddo â Chanllawiau Statudol y DU ynghylch Rheoli Cymorthdaliadau er mwyn deall sut y gallai'r rheolau fod yn berthnasol i'ch prosiect.
- Mae tîm Tyfu Canolbarth Cymru yn gyfrifol am benderfynu a yw grant arfaethedig yn cydymffurfio â'r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau.
- Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gwblhau ein hasesiad ac yn cadw'r hawl i gyflwyno gofynion pellach er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.
- Bydd yr holl ddyfarniadau a gymeradwyir yn cael eu cyhoeddi ar Gronfa Ddata Llywodraeth y DU ar gyfer Tryloywder Cymorthdaliadau, fel sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Nodwch: Nid oes angen i brosiectau unigol sy'n cael cyllid gan Fargen Twf Canolbarth Cymru gyflwyno eu hasesiadau rheoli cymorthdaliadau eu hunain. Bydd hynny'n cael ei reoli'n ganolog yn rhan o broses lywodraethiant y rhaglen.
1.4 Y broses gwneud cais
Mae'r broses hon yn cynnwys pedwar cam, sy'n galluogi Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru i adnabod prosiectau sy'n ymgeiswyr hyfyw i'w cynnwys ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru neu i'w cofrestru yn rhestr strategol Tyfu Canolbarth Cymru o brosiectau arfaethedig.
1.4.1 Galwad Ffurfiol
Bydd Galwad Ffurfiol yn cael ei chyhoeddi er mwyn gwahodd sefydliadau i gyflwyno mentrau a syniadau ynghylch prosiectau i'w hystyried dan Fargen Twf Canolbarth Cymru. Bydd yr alwad hon yn cael ei hyrwyddo'n eang ar draws amryw sianelau cyfathrebu er mwyn sicrhau ei bod yn cyrraedd ac yn cynnwys cymaint o sefydliadau ag sy'n bosibl.
P'un a fyddwch yn dod i wybod am y cyfle drwy alwad ffurfiol neu mewn ffordd arall, cewch eich annog yn daer i gael trafodaeth gychwynnol â Swyddfa Rheoli'r Portffolio. Bydd y Swyddfa yn eich helpu i ddeall paramedrau Bargen Twf Canolbarth Cymru ac yn asesu a yw eich cynnig yn cyd-fynd â dyheadau strategol y rhestr o brosiectau arfaethedig.
Os bernir bod potensial yn perthyn i'ch syniad, cewch eich gwahodd yn ffurfiol i gyflwyno Ffurflen yr Asesiad Strategol, y mae'n rhaid ei llenwi a'i chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2026 fan bellaf.
Bydd pob cais yn cael ei adolygu. Bydd y cynigion cryfaf - y rhai sy'n dangos bod ganddynt aliniad strategol clir, bod modd iddynt gael eu cyflawni ac y byddant yn cael effaith - yn cael eu hystyried i'w cynnwys ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru. Mae'n bosibl y bydd cynigion eraill sy'n dangos addewid ond nad ydynt yn barod eto'n cael eu hychwanegu at Gofrestr Prosiectau Arfaethedig Tyfu Canolbarth Cymru i'w hystyried yn y dyfodol.
1.4.2 Ffurflen yr Asesiad Strategol
Caiff sefydliadau eu gwahodd i lenwi Ffurflen yr Asesiad Strategol, sy'n canolbwyntio ar ddau faes asesu allweddol:
- Gwerth strategol: Pa mor dda y mae'r prosiect yn cyd-fynd ag amcanion Bargen Twf Canolbarth Cymru a blaenoriaethau rhanbarthol.
- Parodrwydd: Parodrwydd prosiect i symud yn ei flaen, sy'n cynnwys cynllunio, adnoddau a'r gallu i gyflawni.
Rhaid i'r cais gorffenedig gael ei gyflwyno erbyn 31 Ionawr 2026 fan bellaf.
1.4.3 Proses asesu annibynnol
Bydd yr holl geisiadau a gyflwynir yn mynd drwy broses wirio annibynnol a gyflawnir gan gynghorwyr allanol a benodir ar ran Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Yn rhan o'r broses honno, bydd yna waith ymgysylltu wedi'i dargedu â chynigion dethol er mwyn archwilio'n fanylach ddichonoldeb, aliniad strategol a'r potensial i gyflawni.
Bydd y broses asesu annibynnol yn cael ei chwblhau erbyn 28 Chwefror 2026.
1.4.4 Dewis a chytuno
Bydd argymhellion ynghylch cynnwys prosiectau ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cael eu cyflwyno i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ym mis Mawrth 2026.
Bydd yr holl fentrau sydd wedi'u gwirio yn annibynnol drwy'r broses asesu'n cael eu cofnodi ar Gofrestr Prosiectau Arfaethedig Tyfu Canolbarth Cymru.
Mae'n bosibl y bydd prosiectau cryf o ran eu haliniad strategol a'u parodrwydd yn cael eu dewis i'w cynnwys ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru, yn amodol ar gael cymeradwyaeth y Bwrdd.
1.5 Dogfennau Ategol
I gefnogi eich Asesiad Strategol, rhaid i chi ddarparu'r dogfennau allweddol canlynol. Mae'n bosibl y gofynnir am ddeunyddiau ychwanegol os byddant yn berthnasol i'ch prosiect. Peidiwch â chyflwyno dogfennau nad ydynt wedi'u rhestru isod, oherwydd ni fydd unrhyw ddeunyddiau na ofynnwyd amdanynt yn cael eu hystyried yn ystod y broses asesu.
Fodd bynnag, gallwch gynnwys rhestr gryno o ddogfennau eraill sydd ar gael, ynghyd ag esboniad byr o'u perthnasedd i'ch cynnig.
Dogfennau sy'n ofynnol:
- Cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u cyhoeddi.
o Dylech gyflwyno cyfrifon diweddaraf eich sefydliad sydd wedi'u harchwilio. Nodwch y gellir defnyddio asiantaeth gwirio credyd i gynnal archwiliad diwydrwydd dyladwy ariannol.
- Cynllun cyflawni prosiect (amserlen neu siart Gantt).
o Dylech ddarparu cynllun cyflawni clir sy'n amlinellu cerrig milltir allweddol ac amserlenni ar gyfer cam datblygu a cham gweithredu eich prosiect. Dylai hynny gynnwys yr amserlen ar gyfer paratoi eich achos busnes.
o Rhaid i brosiectau ddangos bod modd cwblhau'r gwaith cyflawni erbyn 2032 fan bellaf.
- Cofrestr risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau y prosiect. Rhaid i'r holl brosiectau gynnal cofrestr fyw o risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau. Dylai'r gofrestr:
o Nodi'r risgiau allweddol a strategaethau lliniaru
o Cofnodi unrhyw ragdybiaethau a wnaed yn ystod y broses gwneud cais
o Amlygu dibyniaethau a phroblemau posibl a allai effeithio ar waith cyflawni.
