4. Cwestiynau Cyffredin
4.1 Cwestiynau Cyffredin
Nid yw'r rhestr hon o gwestiynau cyffredin yn gyflawn. Wrth i'n hymwybyddiaeth o ymholiadau cyffredin gynyddu, byddwn yn parhau i ehangu'r adran hon er mwyn cynorthwyo ymgeiswyr a rhanddeiliaid yn well.
Os oes gennych gwestiwn nad yw'n cael sylw ar hyn o bryd, dylech gysylltu â Swyddfa Rheoli'r Portffolio.
C: A yw cynnwys cost prynu tir, neu gost asedau cyfredol sy'n adeiladau, yng nghostau'r prosiect yn rhywbeth a ganiateir?
A: Ydy, cyhyd â bod y safle wedi'i brynu neu mai unig bwrpas yr adeilad(au) dan sylw fydd galluogi'r prosiect.
Math o brosiect
C: A yw'n gywir nad oes yn rhaid i gynigion greu adeiladau newydd, ac y byddai gwneud gwaith ôl-osod/adnewyddu ar eiddo presennol yn dderbyniol?
A: Ydy. Mae'n bosibl sicrhau cyllid ar gyfer prosiect ôl-osod/adnewyddu, cyhyd â'i fod yn dal i greu man masnachol newydd, a hynny fel rheol drwy 'newid defnydd' yn y system gynllunio, er enghraifft troi hen uned fanwerthu'n ffatri.
Ariannol
C: A ydych yn disgwyl i fusnes ariannu'r prosiect cyfan i ddechrau ac adennill costau perthnasol wedyn?
A: Ydyn. Byddai angen i chi ddangos tystiolaeth o'r costau yr aethpwyd iddynt a chyflwyno'r manylion ar ein ffurflen ar gyfer hawlio'n ôl-weithredol. Gellir adennill costau drwy hawliadau chwarterol am gostau yr aethpwyd iddynt. Mae angen i'r costau yr aethpwyd iddynt fod yn gostau cyfalaf cymwys sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch prosiect.
C: A ydych wedi creu bandiau gwerth o fewn Bargen Twf Canolbarth Cymru, y mae'n rhaid i geisiadau gyd-fynd â nhw?
A: Nid yw Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi pennu unrhyw fformiwlâu ar gyfer ystyried asesiadau strategol. Fodd bynnag, bydd bodloni'r ffactorau llwyddiant allweddol yn ystyriaeth allweddol a bydd pwys penodol ar allu prosiect i greu swyddi, gwella cynhyrchiant ac ysgogi buddsoddiad ychwanegol yn ganolog i'r broses asesu.
C: A ydych wedi pennu terfyn isaf ar gyfer cost gyffredinol prosiect?
A: Ydyn. Gwerth isaf posibl prosiect yw £500,000. Ceir terfyn uchaf hefyd, sef £25m.
C: Rwy'n deall mai cyfradd ymyrryd uchaf y Gronfa ar gyfer prosiect fydd 40% o gost gyffredinol y prosiect. A fydd gwerth unrhyw arian gan y sector cyhoeddus yn cael ei ystyried yn rhan o hynny?
A: Er ei bod yn ofynnol i Fargen Twf Canolbarth Cymru ysgogi buddsoddiad gan y sector preifat, mae arian arall gan y sector cyhoeddus yn gyllid cyfatebol posibl, cyhyd â bod telerau ac amodau'r arian dan sylw'n caniatáu hynny.
Gwerthuso
C: Pwy fydd yn asesu Ffurflen yr Asesiad Strategol?
A: Mae'r agwedd hunanasesu sy'n perthyn i'r ffurflen yn ffactor hanfodol yn y broses hon, a chaiff sefydliadau eu cynghori i gwblhau'r adran honno'n dryloyw ac yn gywir. Mae'n debyg y bydd methu â gwneud hynny'n anfanteisiol i'r prosiect. Bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried gan gwmni ymgynghori allanol ac annibynnol, ac yn cael ei ystyried hefyd gan Swyddfa Rheoli'r Portffolio ac arbenigwyr pwnc o fewn y cyngor. Yn achos y prosiectau mwyaf addawol, bydd Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn ceisio cynnal trafodaethau â sefydliadau arweiniol er mwyn cael cadarnhad pellach ynghylch y wybodaeth a ddarparwyd.
Cysylltiadau
C: Ble y gallaf gael cymorth pellach i lunio cais?
A: Dylech barhau i gysylltu â Swyddfa Rheoli'r Portffolio, ond gallwch hefyd fynd i'r dudalen 'Cysylltu' ar ein gwefan, lle'r ydym wedi darparu rhestr o sefydliadau (a'u manylion cyswllt) sy'n barod i'ch cynorthwyo i fynd drwy'r broses.
