2. Dogfennau Canllaw
2.2 Llenwi Ffurflen yr Asesiad Strategol
Yn ôl canllawiau Trysorlys Ei Fawrhydi Better Business Case, diben yr Asesiad Strategol yw sefydlu'r cyd-destun strategol ar gyfer prosiect a dangos sut y mae'n cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol ehangach.
Bydd prosiect yn cael y dechrau mwyaf effeithiol pan fydd wedi'i wreiddio mewn strategaeth fusnes glir sy'n amlinellu:
- Ble'r ydych chi arni ar hyn o bryd.
- Ble'r ydych am fod.
- Sut y byddwch yn cyrraedd yno.
- Sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur.
Mae cwblhau Asesiad Strategol yn rhoi cyfle cynnar i'r sefydliad, tîm Bargen Twf Canolbarth Cymru a rhanddeiliaid allweddol:
- Ddylanwadu ar gyfeiriad, cwmpas a chynnwys y prosiect.
- Cadarnhau addasrwydd strategol y prosiect o fewn Portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru.
- Sicrhau bod strwythur y prosiect yn dda, bod ganddo adnoddau digonol, a'i fod yn cael ei lywodraethu mewn modd a fydd yn sicrhau ei fod yn cyflawni'n llwyddiannus.
Dylai eich Asesiad Strategol:
- Ddangos sut y mae'r prosiect yn hybu polisïau a thargedau cenedlaethol, rhanbarthol, lleol neu sefydliadol sy'n cyd-fynd â Bargen Twf Canolbarth Cymru.
- Dangos sut y mae'r prosiect yn cyd-fynd â strategaeth fusnes a chynlluniau cyflawni eich sefydliad.
- Darparu dealltwriaeth glir o'r llwybr allweddol ar gyfer cyflawni, sy'n cynnwys:
- Y canlyniadau a'r allbynnau a ddisgwylir
- Y cerrig milltir allweddol a'r amserlenni
- Y buddion a ddisgwylir a'r risgiau cysylltiedig
- Cadarnhau bod y prosiect:
- Yn cael ei drefnu a'i ariannu yn briodol
- Yn cael ei gefnogi gan y llywodraethiant, y safonau, yr adnoddau a'r galluoedd angenrheidiol
- Cyfleu'n glir yr anghenion o ran busnes a'r cyfleoedd o ran gwasanaeth y mae'r prosiect yn bwriadu mynd i'r afael â nhw.
Bwriedir i Ffurflen yr Asesiad Strategol eich tywys drwy'r broses hon. Er bod y ffurflen yn hunanesboniadol i raddau helaeth, bydd y canllawiau ychwanegol canlynol yn eich cynorthwyo i'w llenwi yn effeithiol.
Dylech gwblhau'r meysydd canlynol yn Ffurflen yr Asesiad Strategol. Bydd y manylion hyn yn helpu i asesu addasrwydd strategol eich prosiect, ei barodrwydd a'i strwythur ariannol.
Manylion y prosiect
- Teitl y prosiect: Enw clir a chryno ar gyfer eich prosiect.
- Sefydliad arweiniol: Y sefydliad sy'n gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni'r prosiect.
- Uwch-berchennog Cyfrifol: Y swyddog uwch yn y sefydliad arweiniol, sy'n atebol am gyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.
- Rheolwr y prosiect: Y person sy'n gyfrifol am ddatblygu a chydlynu'r prosiect o ddydd i ddydd.
- Capasiti allanol y prosiect: Nodwch a oes unrhyw gymorth proffesiynol allanol yn cael ei ddefnyddio i reoli'r prosiect.
- Rhanddeiliaid allweddol: Rhestrwch unrhyw sefydliadau eraill sy'n ymwneud yn weithredol â datblygu neu gefnogi'r prosiect.
Trosolwg ariannol
- Cyfanswm y costau cyfalaf (£): Y costau cyfalaf llawn sy'n ofynnol i gyflawni'r prosiect (rhwng £500,000 a £25m).
- Cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru (£): Swm y cyllid y gofynnir amdano gan Fargen Twf Canolbarth Cymru (rhaid nad yw'n fwy na 40% o gyfanswm y costau cyfalaf).
- Gofyniad o ran cyllid cyfatebol (£): Gweddill y cyllid cyfalaf sy'n ofynnol (h.y. cyfanswm y costau cyfalaf namyn cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru).
- Buddsoddiad posibl gan y sector preifat (£): Unrhyw gyfraniadau gan y sector preifat, a ddisgwylir neu sydd wedi'u cadarnhau, tuag at y cyllid cyfatebol.
- Costau refeniw datblygu (£): Amcangyfrif o'r costau refeniw ar gyfer datblygu'r prosiect. Nodwch: Ni all Bargen Twf Canolbarth Cymru ariannu costau refeniw datblygu.
- Cymhareb fudd:cost ddangosol: Os yw'n hysbys, darparwch y gymhareb fudd:cost—mesur sy'n cymharu buddion disgwyliedig y prosiect â'i gostau.
Os nad yw'n hysbys ar hyn o bryd, gadewch y maes hwn yn wag. Dylech osgoi rhoi amcangyfrifon tybiannol.
Y cynnig
Yn yr adran hon, dylech roi disgrifiad clir a chryno o gynnig eich prosiect. Dylai eich ateb ymdrin â'r meysydd allweddol canlynol:
- Diben y prosiect
Esboniwch beth y mae eich prosiect yn ceisio ei gyflawni. Disgrifiwch y syniad craidd, y broblem neu'r cyfle y mae'n mynd i'r afael ag ef/â hi, a'r rhesymeg dros ei ddatblygu.
- Tystiolaeth o alw
Darparwch dystiolaeth ategol sy'n dangos yr angen neu'r galw am eich prosiect. Gallai gynnwys:
o Ymchwil i'r farchnad neu waith ymgysylltu â rhanddeiliaid
o Aliniad â pholisi neu strategaeth
o Cyfleoedd economaidd neu fylchau o ran gwasanaeth a nodwyd
- Effaith a ddisgwylir
Amlinellwch ganlyniadau a buddion disgwyliedig y prosiect. Ystyriwch:
o Effaith economaidd (e.e. creu swyddi, cynyddu Gwerth Ychwanegol Gros, ysgogi buddsoddiad)
o Buddion cymdeithasol neu amgylcheddol
o Cyfraniad i gydnerthedd rhanbarthol neu arloesi
- Addasrwydd strategol
Esboniwch sut y mae'r prosiect yn cyd-fynd â:
o Blaenoriaethau Tyfu Canolbarth Cymru
o Amcanion strategol Bargen Twf Canolbarth Cymru, megis:
- Sbarduno arloesi a chynhyrchiant
- Hybu datgarboneiddio ac uchelgeisiau o ran sero net
- Gwella sgiliau a chyflogaeth
- Gwella cysylltedd
- Cryfhau'r economi sylfaenol.
Bydd ateb cryf yn dangos yn glir sut y mae'r prosiect yn cyfrannu i nodau rhanbarthol ac yn ategu mentrau eraill ym Mhortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Yr hunanasesiad
Yn rhan o Ffurflen yr Asesiad Strategol, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau hunanasesiad gan ddefnyddio graddfa sgorio o 1 i 5, gyda chymorth Nodiadau Esboniadol Cadarn.
- Caiff canllawiau ynghylch beth yw sgôr isel (1) neu uchel (5) eu darparu ar y ffurflen.
- Rhaid i bob Nodyn Esboniadol Cadarn gynnwys 150 neu lai o eiriau, a dylent gyfiawnhau'n glir y sgôr a roddwyd.
Diben yr hunanasesiad
Mae'r hunanasesiad yn adnodd allweddol i werthuso pa mor dda y mae eich prosiect yn cyd-fynd â Ffactorau Llwyddiant Allweddol Bargen Twf Canolbarth Cymru. Bydd y ffactorau hynny'n helpu i sicrhau:
- Bod cynigion yn hybu nodau'r Fargen Twf yn uniongyrchol — sy'n cynnwys newid trawsnewidiol, twf cynhwysol a datblygiad sectorau
- Bod fframwaith tryloyw wedi'i safoni yn cael ei ddefnyddio i asesu amryw brosiectau ar draws pob rhanddeiliad.
Mae'r Ffactorau Llwyddiant Allweddol yn ategu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn Ffurflen yr Asesiad Strategol, ac maent wedi'u grwpio i greu dau faes allweddol:
- Tabl A: Gwerth strategol - mae'n asesu aliniad â blaenoriaethau rhanbarthol, addasrwydd o ran polisi, ac effaith bosibl
- Tabl B: Parodrwydd - mae'n gwerthuso parodrwydd i gyflawni, sy'n cynnwys gwaith cynllunio, llywodraethiant, a chapasiti o ran adnoddau.
Bydd cwblhau'r adran hon yn drylwyr yn cryfhau eich cais ac yn helpu tîm Tyfu Canolbarth Cymru i asesu addasrwydd eich prosiect o fewn y Portffolio ehangach.
Matrics Crynhoi'r Asesiad Strategol
Pan fyddwch wedi llenwi Tabl A (Gwerth strategol) a Thabl B (Parodrwydd), rhaid i chi grynhoi eich canlyniadau gan ddefnyddio Matrics Crynhoi'r Asesiad Strategol.
Mae'r matrics hwn yn darparu darlun gweledol o sefyllfa gyffredinol eich prosiect, ac yn helpu i lywio blaenoriaethau a phenderfyniadau.
Crynodeb o barodrwydd: Bydd angen i chi roi barn gyffredinol ar gyfer Tabl B (Parodrwydd), ar sail y pedair agwedd allweddol a asesir:
- Fforddiadwyedd.
- Cymhlethdod.
- Amseroldeb.
- Rheoli.
Caiff disgrifyddion barn eu darparu yn y ffurflen i lywio eich asesiad.
Dylech blotio eich prosiect ar y matrics gan ddefnyddio'r canlyniadau cyfun canlynol:
- Gwerth strategol (o Dabl A).
- Parodrwydd (wedi'i grynhoi o Dabl B).
Bydd hynny'n helpu tîm Tyfu Canolbarth Cymru i asesu cryfder a pharodrwydd cymharol eich cynnig o fewn y Portffolio ehangach.
