Caiff sefydliadau eu cynghori i gysylltu â Swyddfa Rheoli'r Portffolio i gael rhagor o gyngor am Fargen Twf Canolbarth Cymru ac am lenwi Ffurflen yr Asesiad Strategol.
Sefydliadau eraill a all gynnig cymorth
Gall y sefydliadau sydd wedi'u rhestru isod ddarparu cymorth ac arweiniad. Mae croeso i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol i gael cyngor am gymhwystra, prosesau gwneud cais, a datblygu eich cynnig:
- Tîm yr Economi, Cyngor Sir Ceredigion: UKSPF@ceredigion.gov.uk
- Tîm yr Economi, Cyngor Sir Powys: economicdevelopment@powys.gov.uk
- Cymorth Busnes Lleol, Antur Cymru: business@anturcymru.org.uk
- Busnes Cymru: busnescymru.llyw.cymru/cysylltwch-a-ni
Cymorth arall i fusnesau
Er na all y sefydliadau hyn roi cyngor am ein cronfa ni, gallant gynnig ystod o gymorth cyffredinol ac opsiynau o ran cyllid, a allai fod yn ddefnyddiol i'ch busnes.
- Banc Datblygu Cymru:Mae'n cynnig benthyciadau i gynorthwyo prosiectau eiddo masnachol a phreswyl ledled Cymru. Ewch i wefan Banc Datblygu Cymru i archwilio ei opsiynau o ran cyllid ar gyfer eiddo neu i gysylltu ag ef ynglŷn â'ch prosiect.
- British Business Bank:Mae'n cynnig benthyciadau i fusnesau newydd ac opsiynau o ran cyllid ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu yng Nghymru. Mae'n cynnig cyfle i ddysgu mwy am fenthyciadau i fusnesau newydd ac am y Gronfa Buddsoddi i Gymru.
