Toggle menu

Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig

final deal signing

Heddiw, llofnodwyd y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, sef Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.

Mae'n nodi ymrwymiad yr holl bartneriaid i gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru, partneriaeth arloesol sy'n dod â buddsoddiad cyfunol o £110m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a disgwylir iddo ysgogi buddsoddiad ychwanegol sylweddol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat eraill gan greu cymaint o effaith â phosib yn rhanbarth Canolbarth Cymru.

Yn ogystal, bydd disgwyl i'r rhaglenni a'r prosiectau a gefnogir gan y Fargen Dwf greu manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach, megis gwell ansawdd bywyd, creu cyfleoedd busnes yn dilyn effaith COVID-19, datgarboneiddio mewn diwydiant ac ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Gwneir y cytundeb ar ôl datblygu a chyflwyno Achos Busnes y Portffolio ar sail y gyfres gyfredol o raglenni a phrosiectau ar y rhestr fer sy'n cwmpasu ystod o gynigion buddsoddi ar draws nifer o themâu - digidol, twristiaeth, amaethyddiaeth, bwyd a diod, ymchwil ac arloesi a chefnogi menter.

Mae'r cynigion a gyflwynwyd i'r Llywodraeth yn dangos y canlyniadau posibl y gellir eu cyflawni yng Nghanolbarth Cymru drwy fuddsoddiad y Fargen Dwf:

  1. Creu rhwng 1,100 a 1,400 o swyddi newydd yng Nghanolbarth Cymru drwy'r Fargen Dwf erbyn 2032.
  2. Cefnogi cynnydd net ychwanegol o rhwng £570 miliwn a £700 miliwn yng ngwerth ychwanegol gros Economi Canolbarth Cymru drwy'r Fargen Dwf erbyn 2032.
  3. Sicrhau buddsoddiad o hyd at £400 miliwn yn Economi Canolbarth Cymru drwy'r Fargen Dwf erbyn 2032.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a chyd-gadeirydd Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru. Dywedodd: "Hoffem ddiolch i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth a'r ymrwymiad a ddangoswyd i sicrhau'r buddsoddiad sylweddol iawn hwn ar gyfer Canolbarth Cymru. Mae Rosemarie a minnau wedi gweithio'n ddiflino dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn cael ei droi'n realiti - ac mae llofnodi'r cytundeb hwn o'r diwedd yn nodi'r camau datblygu olaf cyn y gall y cyllid ddechrau llifo."

Y Cynghorydd Rosemarie Harris yw Arweinydd Cyngor Sir Powys. Dywedodd: "Rwy'n falch iawn o allu rhannu'r cytundeb hwn gyda busnesau a chymunedau Canolbarth Cymru. Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau'r buddsoddiad hwn yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol wrth i fusnesau a'r sector cyhoeddus ymateb i bandemig Covid."

Mae llofnodi'r cytundeb yn golygu bod fframwaith cyflawni'r Fargen Dwf bellach ar waith i ganiatáu i achosion busnes rhaglenni a phrosiectau gael eu cyflwyno. Mae'r Fargen Dwf yn fuddsoddiad hirdymor a all ddarparu cyllid cyfalaf i gefnogi ymyriadau sy'n arwyddocaol yn rhanbarthol sy'n ysgogi buddsoddiad gan y sector preifat ac yn ysgogi twf.

Bydd sicrhau llwyddiant y Fargen Dwf yn ymdrech ar y cyd ar draws yr holl bartneriaid rhanbarthol, gyda mewnbwn cryf gan y sector preifat. Mae Grŵp Cynghori Economaidd newydd sy'n cynnwys uwch arweinwyr busnes profiadol yn cael ei sefydlu, er mwyn sicrhau bod cyngor ac arweiniad parhaus i allu manteisio i'r eithaf ar botensial y Fargen.

Ychwanegodd y ddau Arweinydd: "Gyda'n gilydd, rydym yn edrych ymlaen at weld y manteision y bydd y buddsoddiad pwysig hwn yn eu cynnig i bobl a busnesau ledled Canolbarth Cymru. Mae rhywfaint o waith caled o'n blaenau eto i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau. Fodd bynnag, rydym wedi buddsoddi amser ac ymdrech ac mae gennym dîm ar waith i helpu i symud hyn yn ei flaen."

"Gan weithio ochr yn ochr â thimau Datblygu'r Economi ym Mhowys a Cheredigion - bydd tîm y Fargen Dwf yn sicrhau ein bod yn alinio potensial buddsoddi â'r cyfleoedd ariannu cywir. Rydym yn annog ein busnesau a'n rhanddeiliaid i wneud eu cynigion buddsoddi yn hysbys i'n tîm - fel y gallwn gydweithio tuag at lwyddiant hirdymor".

David TC Davies yw Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru. Dywedodd: "Mae hon yn garreg filltir hynod bwysig i ganolbarth Cymru. Mae gan Lywodraeth y DU uchelgeisiau enfawr ar gyfer pobl y canolbarth, a bydd yr uchelgeisiau hyn yn awr yn cael eu cefnogi gan fuddsoddiad o £55m gan Lywodraeth y DU. Mae gan y Fargen hon y pŵer i drawsnewid bywoliaethau, creu swyddi a lledaenu ffyniant ac rwy'n falch iawn o'i lofnodi heddiw. Edrychaf ymlaen at weld buddion diriaethol cytundeb heddiw yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."

Vaughan Gething yw Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru. Dywedodd: "Rwy'n falch iawn o allu llofnodi Cytundeb Terfynol y Fargen heddiw ochr yn ochr â'n partneriaid rhanbarthol a Llywodraeth y DU. Mae hwn yn gam mawr ymlaen i'r rhanbarth ac mae'n bwysig bod momentwm yn cael ei gynnal fel y gall y rhanbarth symud ymlaen tuag at gyflawni'r Fargen.

"Mae gan Fargen Twf Canolbarth Cymru, sydd wedi cael hwb gan fuddsoddiad o £55 miliwn gan Lywodraeth Cymru, rôl bwysig i'w chwarae wrth adfer ac ailadeiladu'r economi yn sgil pandemig Covid-19. Rwyf nawr yn awyddus i weld y rhanbarth yn bwrw ymlaen â gweithredu a buddsoddi mewn prosiectau a rhaglenni a fydd yn helpu i sicrhau manteision sylweddol i'r economi ranbarthol.

"Bydd hefyd yn allweddol i gyflawni yn erbyn gweledigaeth a blaenoriaethau Canolbarth Cymru yn y dyfodol, gan helpu i hyrwyddo lles economaidd y rhanbarth wrth fynd i'r afael â rhai o'n huchelgeisiau ar y cyd o ran datgarboneiddio ac economi fwy ffyniannus, gwyrdd a chyfartal."

Dywedodd yr Aelod Seneddol Neil O'Brien, Gweinidog y DU dros Godi'r Gwastad, yr Undeb a'r Cyfansoddiad: "Bydd y fargen hon yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau a busnesau ar draws Canolbarth Cymru, gan gefnogi twf economaidd mwy gwyrdd a chynaliadwy.                                                                           

"Rwy'n falch o lofnodi'r cytundeb hwn, sy'n tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth y DU i godi'r gwastad ym mhob cwr o'r wlad ac rwy'n edrych ymlaen at weld y rhaglenni a'r prosiectau a gefnogir gan y fargen hon yn symud ymlaen nawr."

Bydd y Cytundeb Terfynol a lofnodwyd ar gael ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: http://tyfucanolbarth.cymru/ (Bydd y ddolen yn fyw am 10am ar 13.01.2022)

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael trafodaeth gyda swyddogion ar y cynigion neu unrhyw syniadau newydd, ewch i: http://tyfucanolbarth.cymru/Cysylltu

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu