Toggle menu

Grŵp Cynghori Economaidd

Mae'r Grŵp Cynghori Economaidd (GCE) yn gorff annibynnol ar gyfer Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru. Ei rôl yw cynnig llais busnes am y Fargen Twf a hyrwyddo'r Fargen Twf mewn ffordd gadarnhaol yng Nghymuned Fusnes Canolbarth Cymru.

Mae'r grŵp yn cynnwys arweinwyr busnes sy'n meddu ar arbenigedd sy'n berthnasol i ranbarth Canolbarth Cymru.

Grŵp Cynghori Economaidd

Yma, rydym yn bwrw golwg agosach ar gefndiroedd a phrofiadau busnes y grŵp:

  • Steve Lesbirel, Cadeirydd Grŵp Cynghori Economaidd, a Chyfarwyddwr Rheoli Grŵp Bbi - mae Steve wedi treulio ei fywyd gwaith cyfan yn y diwydiant dylunio ac adeiladu - gan dreulio deng mlynedd ar hugain gyda Grŵp Bbi.  Bu pencadlys Bbi yn Aberhonddu er 1989 ac mae ei drosiant wedi codi o 100,000 yn ystod ei flynyddoedd masnachu cyntaf, i sefyllfa lle y bydd ei drosiant yn £40m yn 2022.  Mae'n cyflogi 50 aelod o staff ar hyn o bryd, ac mae'n gyflogwr mawr yn ardal tref Aberhonddu.
  • Kathryn Austin, Prif Gyfarwyddwr Pobl a Marchnata Grŵp Heart with Smart (HwS) - mae Kath, sy'n byw yn Aberteifi, yn Aelod Siartredig CIPD a'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) ac mae wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Bwrdd CMI Cymru yn ddiweddar.  Y genhadaeth sy'n ei sbarduno yw galluogi symudedd cymdeithasol trwy addysg ac fel rhan o'i hagenda, mae'n datblygu tîm Prentisiaeth HwS.
  • Susan Balsom, Sylfaenydd FBA (Francis Balsom Associates - Four Cymru bellach), sydd wedi ymddeol, ac y mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad marchnata a chyfathrebu ar gyfer brandiau blaenllaw o Gymru, Llywodraeth Cymru a'r holl brif gyrff cyhoeddus gan gynnwys Wales Yearbook.  Cyn Berchennog Busnes Bach Cymreig a Chymraes y Flwyddyn.  Mae ei gwasanaeth cyhoeddus gwirfoddol yn cynnwys bod yn aelod o Fwrdd WDA, Cyngor darlledu BBC, Ofcom, Uchel Siryf Dyfed (2017), ac un o Ymddiriedolwyr Canolfan y Dechnoleg Amgen.  A hefyd, Cadeirydd Prince's Trust Cymru, gan godi £3m ar gyfer egin fusnesau.
  • Meilyr Ceredig, Cyfarwyddwr yn Sgema - Ymgynghorydd dwyieithog, Siartredig gan y Sefydliad Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Siartredig, gyda dros 20 mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu, ymgysylltu cymunedol, a gwaith allgymorth gyda rhanddeiliaid.  Yn brofiadol mewn rheoli ymgyrchoedd a gweithgarwch allgymorth gyda rhanddeiliaid ar gyfer rhai o'r sefydliadau mwyaf blaenllaw yn y DU yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
  • Kristian Hicks, Cynghorydd/Ymgynghorydd Strategaeth. Partner Caffael Grŵp gyda Chwmni Cyfalaf sy'n Fenter Fyd-eang - mae Kristian, sy'n byw yng Ngilwern, wedi bod yn Gynghorydd Busnes, yn Ymgynghorydd Strategaeth neu'n Bennaeth Staff nifer o sefydliadau o'r radd flaenaf, AIM neu sefydliadau iau cyfatebol a restrir, Adrannau'r Llywodraeth, Sefydliadau Ariannol, busnesau bach a chanolig cyn eu sefydlu a'r rhai sydd wedi sefydlu, er mwyn datrys problemau newid, trawsnewid, twf neu drosiant.
  • Douglas Hughes, Cyfarwyddwr Rheoli Douglas Hughes Architects Ltd:  Y Drenewydd, Y Trallwng, Aberystwyth - Mae ei brif fusnes, Hughes Architects, wedi bodoli am dros 21 mlynedd ac mae wedi cwblhau dros 5000 o adeiladau o bob siâp a maint.  O'r cychwyn cyntaf, cynhaliodd Hughes Architects weithgarwch ymgynghori cymunedol fel un o'i sgiliau craidd.  Cydnabuwyd yr ymgysylltu cynnar hwn gyda rhanddeiliaid allweddol gan RIBA fel arfer enghreifftiol.
  • Walter May, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Global Welsh.  Mae Walter wedi cyflawni rolau arwain uwch mewn cwmnïau yn amrywio o IBM i egin fusnesau mewn diwydiannau amrywiol.  Ar ôl treulio 20 mlynedd mewn gwlad dramor, dychwelodd i Gymru, gan ymgysylltu â gweithgarwch entrepreneuriaeth a mentora busnesau twf uchel.  Mae ganddo MSc mewn Peirianneg ac MBA.  Sefydlodd GlobalWelsh, sefydliad llawr gwlad sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac a ariannir gan y sector preifat, sy'n tarddu o gymuned entrepreneuraidd Cymru.
  • Bronwen Raine, Cyfarwyddwr Rheoli Antur Cymru Enterprise/ Antur Teifi - Cyfarwyddwr menter cymdeithasol profiadol sy'n meddu ar wybodaeth a phrofiad helaeth o strategaeth, polisi a chyflawniad entrepreneuriaeth y llywodraeth. Mae Bronwen, sy'n byw yn Llangrannog, yn entrepreneur mewn meysydd lluosog ac yn brofiadol yn y sectorau trafnidiaeth, gofal, twristiaeth a bwyd. 
  • Rik Sellwood, Cyfarwyddwr yn Beacon Productivity Ltd a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Maes Byd-eang yn QinetiQ Limited - mae Rik yn gyfarwydd iawn â'r tirlun Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru, a gyda Llywodraeth Cymru, ar ôl arwain contract Busnes Cymru am 3 blynedd ac mae wedi gweithio gyda Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU, Adrannau eraill y Llywodraeth a gweinidogaethau amddiffyn cenedlaethol eraill am dros 20 mlynedd.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu