Toggle menu

1. Canllaw i Ddefnyddwyr

1.2 Pwy all wneud cais

Mae'r Alwad Ffurfiol yn agored i sefydliadau sy'n gweithredu yn y sectorau sy'n flaenoriaeth i Tyfu Canolbarth Cymru, ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • Busnesau preifat
  • Dau awdurdod lleol y rhanbarth
  • Cyrff eraill yn y sector cyhoeddus
  • Elusennau cofrestredig.

Paramedrau'r cyllid a'r hyn a ddisgwylir

Disgwylir y bydd cyfanswm costau cyfalaf y prosiectau a gefnogir drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru rhwng £500,000 a £25 miliwn.

Gall Bargen Twf Canolbarth Cymru gynnig cyllid ar gyfer bwlch o ran hyfywedd—yn niffyg popeth arall—er mwyn helpu i sicrhau bod modd i brosiect gael ei gyflawni'n gyffredinol.

Rhaid i ymgeiswyr:

  • Amlinellu'n glir sut y maent yn bwriadu ariannu gweddill cyfanswm cost y prosiect
  • Cynnwys manylion am unrhyw gostau refeniw neu ddatblygu nad ydynt yn perthyn i'r amcangyfrif o gyfalaf
  • Darparu'r wybodaeth ariannol hon ar Ffurflen yr Asesiad Strategol.

Bydd pob prosiect yn rhwym wrth gyfradd ymyrryd a gytunwyd, a fydd yn pennu cyfran y cyllid a ddarperir gan Fargen Twf Canolbarth Cymru.

PWYSIG: Ni fydd cyfraniad Bargen Twf Canolbarth Cymru yn fwy na 40% o gyfanswm y costau cyfalaf.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu