Toggle menu

1. Canllaw i Ddefnyddwyr

1.5 Dogfennau Ategol

I gefnogi eich Asesiad Strategol, rhaid i chi ddarparu'r dogfennau allweddol canlynol. Mae'n bosibl y gofynnir am ddeunyddiau ychwanegol os byddant yn berthnasol i'ch prosiect. Peidiwch â chyflwyno dogfennau nad ydynt wedi'u rhestru isod, oherwydd ni fydd unrhyw ddeunyddiau na ofynnwyd amdanynt yn cael eu hystyried yn ystod y broses asesu.

Fodd bynnag, gallwch gynnwys rhestr gryno o ddogfennau eraill sydd ar gael, ynghyd ag esboniad byr o'u perthnasedd i'ch cynnig.

Dogfennau sy'n ofynnol:

  • Cyfrifon diweddaraf sydd wedi'u cyhoeddi.

o   Dylech gyflwyno cyfrifon diweddaraf eich sefydliad sydd wedi'u harchwilio. Nodwch y gellir defnyddio asiantaeth gwirio credyd i gynnal archwiliad diwydrwydd dyladwy ariannol.

  • Cynllun cyflawni prosiect (amserlen neu siart Gantt).

o   Dylech ddarparu cynllun cyflawni clir sy'n amlinellu cerrig milltir allweddol ac amserlenni ar gyfer cam datblygu a cham gweithredu eich prosiect. Dylai hynny gynnwys yr amserlen ar gyfer paratoi eich achos busnes.

o   Rhaid i brosiectau ddangos bod modd cwblhau'r gwaith cyflawni erbyn 2032 fan bellaf.

  • Cofrestr risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau y prosiect. Rhaid i'r holl brosiectau gynnal cofrestr fyw o risgiau, rhagdybiaethau, problemau a dibyniaethau. Dylai'r gofrestr:

o  Nodi'r risgiau allweddol a strategaethau lliniaru

o  Cofnodi unrhyw ragdybiaethau a wnaed yn ystod y broses gwneud cais

o  Amlygu dibyniaethau a phroblemau posibl a allai effeithio ar waith cyflawni.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu