Toggle menu

Y Rhaglen Ddigidol

Nod Rhaglen Ddigidol Tyfu Canolbarth Cymru yw manteisio ar y cyfleoedd economaidd y bydd modd eu datgloi trwy fuddsoddi mewn seilwaith digidol er mwyn rhoi sylw i'r diffygion mewn cysylltedd digidol, llywio'r penderfyniad i fanteisio ar dechnolegau newydd ymhlith busnesau'r rhanbarth a gwella'r gwasanaethau sy'n bodoli eisoes.

Tablet with various programmes running on screen to represent digital technology

Cyflawnir hyn trwy gyflymu darpariaeth seilwaith digidol ar draws Canolbarth Cymru trwy gyfrwng ystod amrywiol o ddefnydd seilwaith diwifr a sefydlog, gyda phlatfformau arloesol, cymorth busnes a diwygiadau polisi yn cyd-fynd ag ef, sy'n hwyluso neu sy'n darparu mwy o fuddsoddiad yn uniongyrchol, gan ysgogi'r galw, a chyflymu manteisio a chreu digidol ar draws rhanbarth Canolbarth Cymru. 

Bydd y rhaglen yn ystyried symud prosiectau yn eu blaen sy'n cyd-fynd gyda ac sy'n cynnig rhywbeth ychwanegol i'r mentrau hynny sydd eisoes yn eu lle neu sydd wedi cael eu cynllunio trwy gyfrwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod prosiectau yn cyd-fynd gyda defnydd a buddsoddiad masnachol ar draws y rhanbarth, heb unrhyw ddyblygu, er mwyn sicrhau cymaint o elw ag y bo modd ar y buddsoddiad.

Oherwydd hyn, mae'r Rhaglen wedi nodi rhestr hir o gyfleoedd ac ymyriadau posibl i'w hystyried a'u datblygu ymhellach, gan gydnabod y bydd angen i'r rhaglen a phrosiectau posibl fod yn gallu cael eu haddasu yn hawdd er mwyn ymateb mewn ffordd effeithiol i'r amgylchedd y mae'r Rhaglen yn gweithredu ynddo, sy'n newid yn gyson. Gydag ymddygiad defnyddwyr a'r farchnad, cynlluniau'r Llywodraeth, a mentrau sy'n bodoli eisoes ac sydd wedi cael eu cynllunio yn parhau i esblygu.

Mae bwrdd rhaglen wedi'i sefydlu yn barod i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r Rhaglen, ac mae adnoddau Bargen Twf wedi'u neilltuo i symud y gwaith hwn yn ei flaen. 

Ar hyn o bryd, mae'r Rhaglen yn canolbwyntio ar gyflwyno darpariaeth band eang gwell i'r rhai sy'n cael eu hystyried 'anoddach eu cyrraedd' lle nad oes unrhyw ymyrraeth fasnachol na chyhoeddus wedi'i gynllunio yn y dyfodol agos a sut y gellir darparu digon o gysylltedd â'r eiddo hwn. Yn ogystal â hyn, mae Bwrdd y Rhaglen hefyd yn rhoi ystyriaeth i signal ffôn symudol gwell gan nodi cymunedau y bydd angen ymyrraeth bellach ar ôl cwblhau'r rhaglen Rhwydwaith Gwledig ar y Cyd (SRN)  Llywodraeth y DU (a fydd yn gweld gwella'r gwasanaeth yng Nghanolbarth Cymru i 97% gan o leiaf un gweithredwr ac i 78% gan y pedwar gweithredwr. Mae hyn yn cymharu â'r lefelau presennol sef 86% a 51%.)

Y Rhaglen Ddigidol oedd ffocws ein llythyr newyddion ar gyfer mis Ionawr. Gallwch weld y llythyr newyddion a rhifynnau blaenorol ohono ar ein tudalen Newyddion a Digwyddiadau

Rydym bob amser yn chwilio am fusnesau a buddsoddwyr posibl i weithio gyda ni er mwyn helpu i wireddu potensial llawn y Rhaglen. Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod ymhellach unrhyw gyfleoedd i fuddsoddi neu os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â ni.

  • Bargen Dwf: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru
  • Ar gyfer pob ymholiad economaidd ac adfywio arall: Yng Ngheredigion, cysylltwch â Clic ar 01545 570 881/ clic@ceredigion.gov.uk. Yn Powys, cysylltwch 01597 827 657/ regeneration@powys.gov.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu